Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â rhan 4 (Diwallu anghenion) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Yn cynnwys cymhwystra, cynlluniau gofal a chymorth a thaliadau uniongyrchol

Cyhoeddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

(Teitl byr: Cod Ymarfer ar Ddiwallu Anghenion)

 

Rhaglith

1.    Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhaid i awdurdod lleol, wrth gyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â’r gofynion yn y cod hwn. Nid yw adran 147 (Gwyro oddi wrth ofynion mewn codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion yn y cod hwn. Yn ogystal, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a amlinellir yma.

 

2.    Yn y cod hwn, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel rhaid neu ni chaniateir / rhaid...beidio. Mae canllawiau yn cael eu mynegi fel gall neu dylai / ni ddylai.

 

3.    Dylai’r cod hwn gael ei ddarllen ochr yn ochr â Rhan 4 o’r Ddeddf a rheoliadau a wnaed o dan adran 32 (dyfarnu cymhwystra), adrannau 54 a 55 (cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau cymorth) ac adrannau 50, 51, 52 a 53 (taliadau uniongyrchol) yn Rhan 4 o’r Ddeddf ar Ddiwallu Anghenion.

 

4.    Mae’r cod ymarfer hwn ar gymhwystra, cynlluniau gofal a thaliadau uniongyrchol yn gysylltiedig â’r cod ymarfer ar asesu ac adolygu o dan Ran 3 o’r Ddeddf, gan fod y ddau god yn allweddol i’r gwaith o gynllunio a darparu’r system newydd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal.

Diben

5.    Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) yn amlinellu dyletswyddau awdurdod lleol o ran diwallu anghenion gofal a chymorth, neu anghenion cymorth yn achos gofalwr, yn dilyn asesiad. Mae’r cod hwn yn:

·         pennu pryd fydd gan unigolyn hawl orfodadwy i gael cymorth gan yr awdurdod lleol a phryd fydd gan yr awdurdod ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu neu drefnu gofal a chymorth.

·         gosod meini prawf cymhwystra a fydd yn berthnasol i bawb – plant, oedolion a gofalwyr.

·         amlinellu gofynion cynllun gofal a chymorth.

·         amlinellu’r amgylchiadau sy’n ofynnol gan awdurdod lleol wrth wneud taliadau uniongyrchol.
 

6.    Rhaid i’r defnydd lleol o’r dull dyfarnu cymhwystra gefnogi symud oddi wrth fodel diffyg o ofal (“beth sy’n bod?”) i bwyslais ar gryfderau, gallu a medrau (“beth alla i ei wneud? /sut alla i gael help?). Rhaid i’r dull dyfarnu cymhwystra fod yn ddull sy’n seiliedig ar ganlyniadau sy’n perthyn yn agos i’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol. Y man cychwyn yw ystyr llesiant a amlinellir yn Rhan 2 o’r Ddeddf, a rhaid i’r awdurdod lleol bennu a fydd darparu gofal a chymorth, neu gymorth yn achos gofalwr, yn helpu’r person i gyflawni ei ganlyniadau personol o fewn y fframwaith llesiant hwnnw. Rhaid i’r awdurdod lleol fod yn glir ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i’r person, a beth y gall y person hwnnw ei wneud i wella ei lesiant ei hun.

 

7.    Mae’r defnydd o feini prawf cymhwystra cenedlaethol ar gyfer gofal a chymorth yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau hawliau i bobl a sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf. Mae’r fframwaith ar gyfer cymhwystra a amlinellir yn y cod hwn yn ddull seiliedig ar hawliau sy’n galluogi person i gyfrannu’n llawn at benderfyniadau ynglŷn â’i fywyd. Mae’n ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth ag unigolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr i sicrhau bod gwasanaethau yn diwallu’r anghenion gofal a chymorth a nodir. Mae’n cydnabod hefyd y cyfraniad y gall pobl ei wneud at eu llesiant eu hunain, a’r cyfrifoldeb sydd ganddynt i wneud hynny.

 

8.    Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i Gonfensiynau ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig a restrir isod wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas ag unigolyn. Disgrifir y canllawiau ar y gofynion i roi sylw priodol yn y cod ymarfer mewn perthynas â Rhan 2 o’r Ddeddf.

·         Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn

·         Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

·         Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl

 

9.    Mae’r Ddeddf yn nodi y dylai awdurdod lleol ymateb mewn ffordd gyd-gynhyrchiol sy’n canolbwyntio ar y person i amgylchiadau arbennig pob unigolyn. Rhaid i unigolion a’u teuluoedd allu cyfrannu’n llawn at y broses o bennu a diwallu eu hanghenion gofal a chymorth trwy broses sy’n hygyrch iddynt. Bydd hyn yn cynnwys bod y dull dyfarnu cymhwystra i gael gofal a chymorth yn cael ei gyflawni trwy’r iaith a’r dull cyfathrebu sy’n cael eu ffafrio gan y person ac mewn arddull a modd sy’n briodol i’w oedran, ei anabledd a’i anghenion diwylliannol.

 

10. Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Gall unrhyw unigolyn wahodd rhywun o’i ddewis i’w helpu i gyfrannu’n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau, teulu neu rwydwaith cymorth ehangach rhywun. 

 

11. Mae’r cod ymarfer penodedig ar eiriolaeth o dan Ran 10 o’r Ddeddf yn amlinellu’r swyddogaethau pan fydd rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r unigolyn, benderfynu sut y gallai eiriolaeth gefnogi’r gwaith o bennu a chyflawni canlyniadau personol unigolyn; ynghyd â’r amgylchiadau pan fydd rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â’r anghenion am eiriolaeth yn rhan annatod o’r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn. 

 

12. Mae’r meini prawf cymhwystra yn amlinellu dyletswyddau’r awdurdod lleol a hawliau’r unigolyn. Mae’r dyletswyddau a’r hawliau hyn yn:

·         Hawl orfodadwy i’r unigolyn lle bydd rhaid i’r awdurdod lleol asesu ei angen am ofal a chymorth, pennu a yw unrhyw un o’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu a ddylent gael eu diwallu gan yr awdurdod lleol, ac ystyried beth y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny.

·         Meini prawf cymhwystra ar gyfer asesu anghenion pob unigolyn.

·         Hawl awtomatig i gymhwystra ar gyfer yr oedolion hynny sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu blant sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ddioddef niwed arall.

·         Rhagdybiaeth bod gan blentyn anabl anghenion gofal a chymorth sy’n  ychwanegol at y gofal a’r cymorth a ddarperir gan deulu’r plentyn, neu yn lle’r gofal a’r cymorth hwnnw.

·         Dull dyfarnu cymhwystra i gael gofal a chymorth sy’n cydnabod y gwahaniaeth rhwng dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod lleol (fel yr amlinellir yn Rhan 2 o’r Ddeddf) a sefydlu hawl orfodadwy i’r unigolyn gael ei anghenion wedi’u diwallu gan yr awdurdod lleol sy’n darparu neu’n trefnu’r gofal a’r cymorth (fel sy’n ofynnol gan ran 4 o’r Ddeddf) os yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

·         Gofyniad bod gan unigolyn ag anghenion gofal a chymorth hawl i dderbyn gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir gan yr awdurdod lleol trwy gynllun gofal a chymorth os na all ddiwallu’r anghenion hynny ei hun (neu, yn achos plentyn, gyda chymorth rhieni neu bobl eraill sy’n gofalu am y plentyn) neu gyda chymorth eraill neu gymorth gwasanaethau yn y gymuned.

Cyd-destun

13. Nid yw dyfarnu cymhwystra yn golygu darparu hawl i un gwasanaeth. Yn hytrach, mae’n golygu gwarantu mynediad at ofal a chymorth os yw’r person yn annhebygol o gyflawni ei ganlyniadau personol heb y mynediad hwnnw.

 

14. Mae dealltwriaeth o’r camau y gall y person eu cymryd i gyflawni ei ganlyniadau, gyda chymorth ei ofalwyr, ei deulu a’r gymuned, yn rhan annatod o’r dull dyfarnu hwn.

 

15. Os yw’n ymddangos bod gan rywun anghenion gofal a chymorth, rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad i ystyried amgylchiadau’r person yn y cylch. Rhaid i gymhlethdod y broses asesu fod yn briodol i’r angen.

 

16. Mae’r statws cymhwystra yn cael ei roi ar yr angen yn hytrach nag ar y person – felly, os oes yna anghenion sydd ond yn gallu cael eu diwallu trwy gynllun gofal a chymorth, bydd gan y person hwnnw hawl i gael yr anghenion hynny wedi’u diwallu fel hyn. Mae hyn yn golygu efallai y bydd rhai anghenion yn cael eu diwallu trwy gynllun gofal a chymorth, hyd yn oed os yw’r person hwnnw yn cael mynediad at wasanaethau cymunedol fel rhan o’r llwybr i gyflawni ei ganlyniadau personol.

 

17. Dim ond un elfen o’r system gofal a chymorth gyffredinol yw cymhwystra. Mae dyletswyddau cyffredinol awdurdod lleol mewn perthynas â darparu’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth a gwasanaethau ataliol, yn ogystal â hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector, yn rhan annatod o’r system gyffredinol. Bydd datblygiad y dyletswyddau hyn yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad rhwydd at gymorth yn eu cymunedau. 

 

18. Rhaid i’r dull o asesu angen a dyfarnu cymhwystra ganolbwyntio ar gryfderau a medrau pobl, yn ogystal â’u hanghenion a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu, er mwyn cyflawni eu canlyniadau personol.

 

19. Er mwyn hyrwyddo llesiant plentyn, rhaid i awdurdod lleol gymryd camau sy’n rhesymol ymarferol i alluogi’r plentyn i fyw gyda’i deulu neu hyrwyddo cysylltiad rhwng y plentyn a’i deulu.

 

20. Mae amgylchiadau newidiol person yn gallu effeithio ar gymhwystra ar unrhyw adeg. Bydd medrau a mecanweithiau cymorth person yn amrywio dros amser ac mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei gydnabod wrth bennu statws angen fel angen cymwys. Rhaid i ddull awdurdod lleol o ddiwallu anghenion pobl am ofal a chymorth fod yn ddigon ymatebol i sicrhau bod yr unigolyn yn gallu cael mynediad at y cymorth iawn i gyflawni ei ganlyniadau personol, beth bynnag fo’i statws cymhwystra.

 

21. Fel rhan o’r dull dyfarnu cymhwystra, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried cryfderau a medrau’r person ac a fyddai’n elwa ar unrhyw wasanaethau ataliol; gwybodaeth, cyngor neu gymorth; neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned. Rhaid i hyn gael ei adlewyrchu yn y broses asesu.

Proses

22. Bydd y dull dyfarnu cymhwystra yn deillio o’r broses asesu a ddisgrifir yn y Cod Ymarfer ar Ran 3 o’r Ddeddf, ac mae’n un o gynhyrchion y broses honno hefyd. Asesu yw’r broses allweddol ar gyfer dyfarnu cymhwystra ac mae angen i’r ddwy set o reoliadau a’r codau ymarfer gael eu darllen ochr yn ochr â’i gilydd.

 

23. Yn dilyn yr asesiad, rhaid penderfynu a yw’r angen asesedig yn gymwys am ofal a chymorth, yn seiliedig ar y meini prawf yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015. Mae’r rheoliadau hyn yn amlinellu disgrifiadau ar wahân ond cyfochrog o’r anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra mewn perthynas ag oedolion, plant a gofalwyr. 

 

24. Rhaid i ganlyniad y penderfyniad asesu a chymhwystra gael ei gofnodi ar yr offeryn asesu a chymhwystra. Rhaid i’r cofnod gynnwys pob elfen o’r offeryn asesu a chymhwystra a dylai’r person gael copi o’r cofnod hwnnw. Mae’r offeryn yn darparu fframwaith sy’n cynnwys y gofynion ar gyfer gwneud penderfyniad asesu a chymhwystra, ond gall yr offeryn gael ei ehangu a’i ddatblygu dros amser i gynnwys templedi a chanllawiau pellach. Mae mwy o wybodaeth am yr offeryn asesu a chymhwystra yn y cod ar Ran 3 o’r Ddeddf. 

 

25. Mae’r dull dyfarnu cymhwystra yn wahanol i unrhyw asesiad ariannol y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol ei gynnal o dan Ran 5 o’r Ddeddf, lle mae ganddo rym i geisio cael cyfraniad at gost y gofal a’r cymorth a ddarperir. Fodd bynnag, gall yr asesiad ariannol lywio penderfyniad yr unigolyn ynglŷn ag a ddylai dderbyn cynllun gofal a chymorth yr awdurdod lleol neu ddefnyddio dull gwahanol i gyflawni ei ganlyniadau.

 

Y Meini Prawf Cymhwystra Cenedlaethol

26. Mae dyfarnu cymhwystra trwy asesu yn sicrhau y bydd y meini prawf cymhwystra cenedlaethol yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ledled Cymru. Er y bydd patrwm darparu’r gwasanaeth yn amrywio o awdurdod i awdurdod, bydd yr hawl i gael gofal a chymorth gan awdurdod lleol lle na fyddai’r gofal a’r cymorth hwnnw ar gael i’r unigolyn ag anghenion gofal a chymorth fel arall yn aros yr un fath.

 

27. Mae’r rheoliadau cymhwystra yn amlinellu’r meini prawf cymhwystra ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr. Ym mhob achos, mae yna bedwar amod ar wahân y mae’n rhaid eu bodloni:

 

              i.        Mae’r amod cyntaf yn ymwneud ag amgylchiadau’r person ac fe’i bodlonir os yw’r angen yn deillio o’r math o amgylchiadau a nodir yn y rheoliadau, er enghraifft, salwch corfforol neu feddyliol. Mae’r rheoliadau’n nodi gwahanol fathau o amgylchiadau ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr.

            ii.        Bodlonir yr ail amod os yw’r angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlyniadau a nodir yn y rheoliadau, er enghraifft, y gallu i gynnal arferion domestig neu hunanofal. Mae’r rheoliadau’n nodi canlyniadau gwahanol ar gyfer oedolion, plant a gofalwyr.

           iii.        Bodlonir y trydydd amod os na all y person ddiwallu’r angen hwnnw ar ei ben ei hun, gyda gofal a chymorth pobl eraill sy’n gallu neu’n barod i ddarparu’r gofal a’r cymorth hwnnw neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned. Caiff yr amod hwn ei newid yn achos plentyn gan y bydd yn cael ei fodloni os na all y plentyn, rhieni’r plentyn neu bobl eraill sy’n cyflawni rôl rhieni ddiwallu’r angen ar eu pennau eu hunain neu gyda’i gilydd.

           iv.        Bodlonir y pedwerydd amod os yw’r person yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chymorth i ddiwallu angen yn unol â chynllun gofal a chymorth neu’n galluogi bod yr angen yn cael ei ddiwallu trwy wneud taliadau uniongyrchol.

 

28. Bydd ystyried yr amod cyntaf a’r ail amod ar gyfer plant, oedolion a gofalwyr a amlinellir yn y rheoliadau yn sefydlu a yw natur anghenion ac amgylchiadau’r person yn golygu y gall ymyrraeth gofal a chymorth fynd i’r afael â’r anghenion a nodir yn yr asesiad neu wella’r adnoddau a fydd yn galluogi’r unigolyn i gyflawni ei ganlyniadau personol.

 

29. Os na all y ddarpariaeth gofal a chymorth helpu’r person i gyflawni ei ganlyniadau, ni fydd y cwestiwn o gymhwystra yn codi. Nid tynnu gwasanaethau gofal a chymorth awdurdodau lleol i mewn i heriau na allant eu hateb (megis darparu gofal iechyd, cyflogaeth neu addysg) yw diben y meini prawf cymhwystra.

 

30. Bydd ystyried y trydydd a’r pedwerydd amod ar gyfer plant, oedolion a gofalwyr a amlinellir yn y rheoliadau yn sefydlu a yw anghenion yr unigolyn yn golygu na all yr anghenion hynny gael eu diwallu trwy:

·         wasanaethau sydd ar gael yn y gymuned sy’n hygyrch iddynt heb yr angen am gynllun gofal a chymorth;

·         gofal a chymorth a gyd-gysylltir ganddo ef, ei deulu neu ei ofalwr, neu eraill;

·         neu drwy unrhyw ddull arall.

…ac a yw’r unigolyn yn annhebygol o gyflawni ei ganlyniadau personol oni bai bod yr awdurdod lleol yn diwallu ei anghenion am ofal a chymorth naill ai trwy ddarparu cymorth i’r unigolyn i’w alluogi i gydgysylltu’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen arno neu drwy ddarparu neu drefnu’r gofal a’r cymorth hwnnw.

31. Wrth ddyfarnu cymhwystra, rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod yr unigolyn yn cymryd rhan fel partner llawn yn y gwaith o asesu i ba raddau y mae’n gallu cyflawni ei ganlyniadau personol; neu gyda chymorth eraill sy’n barod i ddarparu’r cymorth hwnnw; neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae’n gallu cael mynediad atynt.

 

32. Ni ddylai’r meini prawf cymhwystra gael eu defnyddio i’w gwneud hi’n ofynnol i unigolion ddangos eu bod wedi rhoi cynnig ar bob ffynhonnell cymorth arall cyn dod yn gymwys i gael cymorth gan awdurdod lleol.  

 

33. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw nodi a chofnodi ar yr offeryn asesu a chymhwystra sut y bydd y canlyniadau personol yn cael eu cyflawni. Rhaid i’r cofnod gynnwys datganiad o sut mae’r ymarferydd yn asesu’r camau a nodir, sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni’r canlyniad personol neu sut y bydd yn diwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad. Mae hyn yn berthnasol i’r anghenion hynny a ddiwellir trwy ddarparu gofal a chymorth a’r rhai a ddiwellir trwy wasanaethau cymunedol neu ataliol, trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth neu drwy unrhyw ddull arall.     

 

34. Hyd yn oed os defnyddir dull dyfarnu cymhwystra, bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd gyffredinol i helpu pobl i gael mynediad at unrhyw wasanaethau cymunedol priodol os yw’r rhain yn cyfrannu at ganlyniadau’r person trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy o dan adran 17 o’r Ddeddf.

 

35. Mae’r cyfeiriad yn y meini prawf cymhwystra at yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun gofal a chymorth, a sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu, yn cynnwys cynllun gofal a chymorth y gall yr unigolyn ei hun ei reoli trwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol.

 

36. Wrth ddyfarnu cymhwystra, ni ddylid dibynnu gormod ar unrhyw drefniadau gofalu gwirfoddol. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gallu’r gofalwr i ddarparu gofal yn gynaliadwy a’i fod yn cydymffurfio â’i ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo llesiant y gofalwr a’r person sy’n derbyn gofal. 

 

37. Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhai senarios achos byr i ddangos yr ymagwedd hon at gymhwystra anghenion.

Gofynion Awtomatig i Ddiwallu Anghenion

38. Os bydd yr awdurdod lleol yn pennu bod angen diwallu anghenion yr unigolyn er mwyn amddiffyn y person rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu o’r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso (ac, yn achos plentyn: o niwed neu o’r risg o gael niwed), ni fydd angen ystyried neu ddefnyddio’r dull dyfarnu cymhwystra ac ni ddylai’r awdurdod lleol ddefnyddio’r dull dyfarnu hwnnw os bydd gwneud hynny yn atal neu’n gohirio’r awdurdod lleol rhag ymateb mewn ffordd a fydd yn amddiffyn neu’n diogelu’r person dan sylw.

Oedolion

39. Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu’r anghenion hynny y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod angen eu diwallu er mwyn amddiffyn oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu’r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Mae hon yn ddyletswydd gyffredinol ar awdurdod lleol, beth bynnag fo canlyniad unrhyw ddull dyfarnu cymhwystra a ddefnyddir.

Plant (gan gynnwys gofalwyr ifanc)

40. Fel gydag oedolion, rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion plant y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod angen eu diwallu er mwyn amddiffyn y plentyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu’r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, er mwyn amddiffyn y plentyn rhag niwed arall neu’r risg o gael niwed o’r fath. Mae hon yn ddyletswydd gyffredinol ar awdurdod lleol, beth bynnag fo canlyniad unrhyw ddull dyfarnu cymhwystra a ddefnyddir. Mae dyletswyddau awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal wedi’u cynnwys yn Rhan 6 o’r Ddeddf.

 

41. Rhaid i awdurdodau lleol bennu a yw anghenion yr unigolyn yn galw am arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddynt o dan Ran 4 (Gofal a Goruchwyliaeth) neu Ran 5 (Amddiffyn Plant) o Ddeddf Plant 1989.

 

Pwerau Dewisol i ddiwallu anghenion

 

42. Mae pwerau dewisol yn cael eu darparu yn y Ddeddf i alluogi awdurdod lleol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn, beth bynnag fo canlyniad y dull dyfarnu cymhwystra. Mae’r pwerau hyn hefyd yn galluogi awdurdod lleol i ymateb i angen brys, neu i weithredu i amddiffyn person heb yr angen i gwblhau asesiad neu ddull dyfarnu cymhwystra yn gyntaf. Gall y pwerau hyn gael eu harfer hefyd mewn perthynas ag unrhyw berson yn ardal yr awdurdod lleol, hyd yn oed os nad yw’n byw yn yr ardal honno fel arfer.

 

43. Os bydd awdurdod lleol (A) yn diwallu anghenion brys person sydd fel arfer yn byw yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru (B) a bod yr awdurdod lleol arall wedi cytuno i hyn, gall awdurdod A adennill y costau gan awdurdod B. Mae hwn yn ofyniad o dan Adran 193, Rhan 11 o’r Ddeddf.

Gofalwyr a gofal a chymorth a ddarperir gan deulu plentyn

44. Nid yw’r ddyletswydd ar awdurdod lleol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn yn berthnasol i’r graddau bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan ofalwr. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd fodloni ei hun bod y gofalwr yn gallu gwneud hynny ac yn barod i wneud hynny. Os nad yw gofalwr yn diwallu anghenion yr oedolyn ar hyn o bryd, ond y disgwylir iddo wneud hynny (er enghraifft, pan fydd y person sy’n derbyn gofal yn cael ei ryddhau o’r ysbyty), nid oes dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

45. Yn ogystal, nid yw’r ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn yn berthnasol i’r graddau bod yr awdurdod lleol yn fodlon bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu (neu y byddant yn cael eu diwallu) gan deulu’r plentyn neu gan ofalwr. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd fodloni ei hun bod y gofalwr yn gallu gwneud hynny ac yn barod i wneud hynny. Os nad yw gofalwr yn diwallu anghenion y plentyn ar hyn o bryd, ond y disgwylir iddo wneud hynny (er enghraifft, pan fydd y person sy’n derbyn gofal yn cael ei ryddhau o’r ysbyty neu o ofal seibiant), nid oes yna ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

46. Rhaid i’r awdurdod lleol nodi’r holl anghenion yn yr asesiad, gan gynnwys yr anghenion hynny a fyddai’n gymwys pe na bai’r gofalwr neu deulu’r plentyn yn diwallu’r anghenion. Felly, bydd yr awdurdod lleol yn gallu ymateb yn briodol ac yn gyflym os na fydd y gofalwr neu deulu’r plentyn yn gallu diwallu rhai neu bob un o’r anghenion gofal a chymorth a nodir, neu os na fyddant yn barod i wneud hynny.

 

47. Bydd y pwynt pan na fydd gofalwr yn gallu parhau i ddiwallu angen am ofal, neu pan na fydd yn barod i wneud hynny, neu pan fydd yn hysbysu’r awdurdod lleol bod hyn ar fin digwydd, yn golygu newid sylweddol i amgylchiadau’r person sy’n derbyn gofal. O ganlyniad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal ailasesiad o anghenion gofal a chymorth y person.

 

48. Os na fydd gofalwr yn gallu diwallu angen am ofal a chymorth, rhaid i’r gofyniad am ailasesiad beidio ag atal neu ohirio’r awdurdod lleol rhag cymryd camau brys i ddiwallu anghenion gofal a chymorth yr oedolyn neu’r plentyn. Dylai camau o’r fath gael eu llywio gan yr asesiad diweddaraf.

 

49. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i unrhyw un gael asesiad os yw’n ymddangos bod yna angen am ofal a chymorth – hyd yn oed os yw’r gofal a’r cymorth hwnnw yn cael ei ddiwallu gan ofalwr.

 

50. Os yw’r gofalwr yn blentyn, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’w anghenion datblygu ac i ba raddau y mae’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal. Dylai hyn arwain at yr awdurdod lleol yn ystyried a yw’r plentyn yn blentyn ag anghenion gofal a chymorth; os felly, dylai gael ei asesu o dan adran 21 o’r Ddeddf. I gael canllawiau ar asesu anghenion plant sy’n ofalwyr, darllenwch y cod ymarfer mewn perthynas ag Asesu ac Adolygu o dan Adran 3 o’r Ddeddf.

 

Anghytundeb ynglŷn â dyfarnu cymhwystra

 

51. Os bydd yr awdurdod lleol yn pennu nad yw anghenion y person yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a bod yr unigolyn yn anghytuno â’r penderfyniad hwnnw, bydd yr unigolyn yn cael gwybod am ei hawl i ddefnyddio’r broses gwyno ac yn cael ei dywys trwy’r broses honno. Ni ddylai hyn arwain at unrhyw oedi. 

 

52. Os bydd anghenion ac amgylchiadau yn newid, bydd gan yr unigolyn hawl i wneud cais am ailasesiad o’i anghenion gofal a chymorth. Mae mwy o fanylion am ailasesiad wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer o dan Ran 3 o’r Ddeddf.

 

Gwrthod Cynllun Gofal a Chymorth

53. Ar ôl dyfarnu cymhwystra, cynghorir yn gryf y dylai’r unigolyn a’r awdurdod lleol gytuno ar gynllun gofal a chymorth. Gall yr awdurdod lleol benderfynu hefyd fod gan rywun hawl i gael gofal a chymorth, er y gall y person hwnnw wrthod ei dderbyn. Mewn achosion fel hyn, rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi pam y cafodd cynllun gofal a chymorth ei wrthod. Rhaid i’r statws cymhwystra gael ei gadw a rhaid i’r awdurdod lleol ail-fframio ei gymorth er mwyn cynnal ei ymwybyddiaeth o anghenion y person a galluogi ymateb priodol ac amserol os bydd y person yn ailystyried ei benderfyniad i wrthod gofal a chymorth.

 

54. Os na fydd person yn gallu gwneud y penderfyniad i wrthod cynllun gofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer cysylltiedig[1].

 

55. Dylid cymryd pob cam rhesymol i wella gallu person i gyfathrebu ei ddymuniadau er mwyn sicrhau bod y cynllun gofal a chymorth er lles pennaf y person ac yn briodol i’w anghenion a nodir.

Cynlluniau Gofal a Chymorth (yn cynnwys Taliadau Uniongyrchol)

56. Yn y cod ymarfer hwn, oni nodir yn wahanol, dylid ystyried bod unrhyw gyfeiriad at ddyletswyddau neu bwerau mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth yn berthnasol i gynlluniau cymorth i ofalwyr hefyd. Yn ogystal, dylid ystyried bod unrhyw gyfeiriad at ‘ofal a chymorth’ yn cyfeirio at ‘gymorth’ os yw’n berthnasol i ofalwyr.

 

57. Os bydd unigolyn yn defnyddio taliadau uniongyrchol i reoli ei ofal ei hun (naill ai’n uniongyrchol neu drwy rywun arall), bydd y taliadau uniongyrchol hynny yn rhan o gynllun gofal a chymorth. Mae’r Ddeddf yn cyfeirio at nodi canlyniadau ar gyfer unigolion a darparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion unigolion. Nid yw’r cod ymarfer hwn yn atal cynllun gofal a chymorth rhag diwallu anghenion yr unigolyn trwy ddarparu gofal a chymorth i aelodau o deulu’r unigolyn os mai dyna’r ffordd fwyaf priodol i ddiwallu anghenion unigolion yn y teulu hwnnw a helpu’r unigolion hynny i gyflawni eu canlyniadau personol.

Diben

58. Mae adran 54 o’r Ddeddf yn nodi bod rhaid i awdurdod lleol baratoi a chynnal cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth ar gyfer person y mae angen diwallu ei anghenion. Rhaid i’r cynlluniau gael eu hadolygu’n rheolaidd. Os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod amgylchiadau person wedi newid mewn ffordd sy’n effeithio ar y cynllun, rhaid iddo gynnal asesiadau o’r fath a diwygio’r cynllun yng ngoleuni’r asesiadau hynny. Ni ddylai cynllun gael ei gau heb adolygiad.

 

59. Mae’r cod ymarfer hwn yn rhoi sylw i ddyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth a threfniadau adolygu ar gyfer unigolion a theuluoedd.

Y Broses Cynllunio Gofal

Yr hawl i gael cynllun gofal a chymorth ac adolygu cynlluniau

60. Rhaid i awdurdod lleol ddarparu ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth ar gyfer pobl ag anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a phobl y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod angen diwallu anghenion y person hwnnw er mwyn amddiffyn y person rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu o’r risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso (ac, yn achos plentyn: o niwed neu’r risg o gael niwed).

 

61. Os yw’r dyletswyddau tuag at blentyn yn berthnasol o dan Ran 6 o’r Ddeddf (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya), rhaid i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun gofal a chymorth yn unol â gofynion y rheoliadau a wnaed o dan y rhan honno o’r Ddeddf.

 

62. Rhaid i awdurdod lleol ddarparu ac adolygu cynlluniau cymorth ar gyfer gofalwyr ag anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra. Mae hyn er mwyn hyrwyddo cysondeb rhwng cynlluniau ar gyfer gofalwyr a thrin gofalwyr yr un fath â phobl ag anghenion gofal a chymorth. Mewn rhai achosion, os yw’r person yn ofalwr ag anghenion cymorth, efallai y bydd asesiad yn nodi y gall yr awdurdod lleol ddiwallu’r anghenion hynny trwy ddarparu gofal a chymorth i’r person sy’n derbyn gofal. Gall hyn fod yn berthnasol hyd yn oed os nad oes yna ddyletswydd i ddiwallu anghenion y person sy’n derbyn gofal ac nad oes yna gynllun gofal a chymorth ar wahân ar gyfer y person hwnnw.

 

63. Mae’n ofynnol i awdurdod lleol baratoi cynllun gofal a chymorth ar gyfer pobl y mae eu hanghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu y mae angen diwallu eu hanghenion am reswm arall (megis i’w hamddiffyn rhag cael eu cam-drin) – lle mae’r person hwnnw yn annhebygol o gyflawni ei ganlyniadau personol oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chymorth i ddiwallu angen a nodir.

 

64. Gall anghenion llawer o unigolion a theuluoedd gael eu diwallu heb gynllun gofal a chymorth ffurfiol. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy neu wasanaethau cymunedol neu ataliol eraill, megis rhai mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector, gael eu cyfeirio’n glir. Rhaid gwneud cofnod o sut y bydd yr anghenion hyn yn cael eu diwallu heb gynllun gofal a chymorth ffurfiol ar yr offeryn asesu a chymhwystra y cyfeirir ato yn y cod ymarfer mewn perthynas â rhan 3 o’r Ddeddf. 

Paratoi a Darparu Cynlluniau Gofal a Chymorth

65. Dylai awdurdodau lleol weithio gyda’u bwrdd iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG i gytuno ar drefniadau ar draws ardal y bwrdd iechyd lleol ar gyfer dirprwyo ymarferwyr i weithio gyda’r rhai y mae eu hanghenion yn gofyn am gynllun gofal a chymorth.

 

66. Rhaid i’r Cynllun Gofal a Chymorth gael ei ddatblygu mewn partneriaeth â’r unigolyn i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o sut y bydd yr anghenion yn cael eu diwallu a chanlyniadau personol yn cael eu cyflawni.  

Cydgysylltydd Cynllun Gofal a Chymorth

67. Os bydd hi’n ofynnol i awdurdod lleol baratoi a chynnal cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth, rhaid iddo sicrhau ei fod yn dewis unigolyn i gydgysylltu’r gwaith o baratoi, cwblhau, adolygu, darparu a diwygio’r cynllun.  

 

68. Rhaid i enw cydgysylltydd y cynllun gofal a chymorth gael ei gofnodi ar y set ddata graidd o dan ran 3 o’r Ddeddf. Mewn llawer o achosion, bydd y gwaith o gydgysylltu’r cynllun gofal a chymorth a chydgysylltu’r asesiad yn cael ei gyflawni gan yr un ymarferydd. 

 

69. Bydd rôl y cydgysylltydd yn cynnwys monitro darpariaeth y gwasanaethau a’r cymorth a ddarperir trwy’r cynllun lle cytunir bod angen gwneud hyn. Bydd cyfrifoldebau’r rôl hon yn cynnwys:

·         defnyddio arbenigwyr ychwanegol yn ôl yr angen;

·         gweithredu fel ffocws cyfathrebu ar gyfer gwahanol ymarferwyr a’r unigolyn;

·         sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi’n gywir a bod y cynllun gofal a chymorth ar gael i’r unigolyn; a

·         sicrhau bod unrhyw broblemau neu anawsterau o ran cydgysylltu neu gwblhau adolygiad yn cael eu datrys.

 

70. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod cydgysylltydd y cynllun gofal a chymorth sy’n gyfrifol am baratoi, adolygu neu ddiwygio cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth:

·         yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd i wneud hynny;

·         wedi derbyn hyfforddiant priodol; ac

·         yn ymwybodol o gynlluniau eraill sydd ar waith ar gyfer yr unigolyn er mwyn osgoi dyblygu, esgeulustod neu ddryswch.

Cynghorir y dylai’r cymwysterau priodol ar gyfer cynnal y gweithgareddau hyn gynnwys:

·         naill aigweithiwr gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol proffesiynol cofrestredig sydd â chymhwyster proffesiynol ar lefel 5 neu uwch

 

·         neu berson sydd â chymhwyster gofal cymdeithasol ar lefel 4 neu uwch, sy’n cynnwys gwybodaeth a sgiliau cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar y person, o dan oruchwyliaeth gweithiwr gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol proffesiynol cofrestredig. 

Bydd hefyd angen i awdurdod lleol fod yn fodlon bod gan yr holl staff sy’n cynnal y gweithgareddau hyn y sgiliau, y wybodaeth a’r cymhwysedd i weithio gyda phlant a phobl ifanc, oedolion a gofalwyr, fel sy’n briodol.

 

Gwasanaethau i bobl fyddar a dall

 

71. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir i bobl fyddar a dall yn briodol, gan gydnabod efallai na fyddant yn gallu elwa ar wasanaethau prif ffrwd neu’r gwasanaethau hynny sy’n targedu pobl ddall neu bobl fyddar sy’n gallu dibynnu ar eu synhwyrau eraill. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod pobl fyddar a dall yn gallu cael mynediad at weithwyr cymorth un-i-un sydd wedi derbyn hyfforddiant penodol ar gyfer y rhai yr aseswyd eu bod angen y cymorth hwnnw. Dangosir hyn yn senario achos ‘Nam ar ddau synnwyr’ yn Atodiad 2. Rhaid i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros wasanaethau byddar a dall o fewn ei gyfrifoldebau.

 

Gwasanaethau Mabwysiadu

 

72. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod ymarferwyr sy’n paratoi, cynnal ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth at ddibenion mabwysiadu yn bodloni gofynion Rheoliadau Cyfyngiadau ar Baratoi Adroddiadau Mabwysiadu 2005. Dylai fod gan staff sy’n cyflawni dyletswyddau cysylltiedig nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan y rheoliadau hyn wybodaeth a dealltwriaeth berthnasol o oblygiadau oes mabwysiadu.

Ariannol

73. Mewn achosion lle mae’r cynllun gofal a chymorth yn nodi gofal a chymorth sy’n gofyn am gyfraniad ariannol gan yr unigolyn, rhaid gwneud trefniadau i sicrhau bod yr unigolyn yn glir ynglŷn â hyn a bod asesiad ariannol yn cael ei gynnal os yw hynny’n ofynnol o dan Ran 5 o’r Ddeddf.

 

74. Os oes gan unigolyn fodd ariannol uwchlaw’r terfyn ariannol (fel yr amlinellir mewn Rheoliadau a wnaed o dan adran 69 o’r Ddeddf), dylai’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn parhau i allu cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chynhorthwy o safon uchel sy’n ei alluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’i anghenion gofal a chymorth. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bobl sy’n gwneud penderfyniadau hollbwysig ynglŷn â’u gallu i fyw’n annibynnol. 

                               

75. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd unigolyn â modd ariannol uwchlaw’r terfyn ariannol angen cymorth gan yr awdurdod lleol i wneud trefniadau ar gyfer ei ofal a’i gymorth. Bydd angen i’r awdurdod lleol gynnal asesiad gyda’r unigolyn a gwneud dyfarniad cymhwystra. Os bydd yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ac os bydd yr unigolyn yn gofyn i’r awdurdod ddiwallu’r anghenion hyn, bydd gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i wneud trefniadau gyda darparwr y lleoliad. Mewn achosion o’r fath, yr awdurdod lleol fydd deiliad y contract gyda’r darparwr, ac ystyrir bod yr unigolyn fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod lleol lle’r oedd yn byw cyn y lleoliad, fel y byddai’r awdurdod lleol a wnaeth y lleoliad yn parhau i fod yn gyfrifol. Yr awdurdod lleol ei hun fydd yn penderfynu pa mor gyflym y bydd yn comisiynu’r lleoliad.

Fformat Cynlluniau Gofal a Chymorth

76. Rhaid i fformat y cynllun gofal a chymorth gael ei gytuno gan yr awdurdodau lleol a’r bwrdd iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG, a rhaid iddo fod yn gyson ar draws rhanbarth y bwrdd iechyd lleol. Nid yw’r gofyniad hwn yn atal awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG rhag gweithio gyda’i gilydd yn genedlaethol i ddatblygu fformat cyson ar gyfer cynlluniau gofal a chymorth.

 

77. Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG i sicrhau bod templedi lleol ac arbenigol ar gyfer cynlluniau gofal a chymorth yn bodloni’r set ddata graidd ofynnol genedlaethol a’r cynnwys sy’n ofynnol yn yr adrannau canlynol. Dylai’r set ddata graidd alluogi ymarferwyr i nodi a chyfeirio at gynlluniau iechyd, gofal a chymorth, gofal ac asesiadau llesiant eraill sydd wedi’u darparu i’r unigolyn a/neu ei deulu.

 

78. I hyrwyddo arferion cyson ledled Cymru, mae’r set ddata graidd ofynnol genedlaethol yn sicrhau y gall unigolion ddibynnu ar eu hasiantaethau lleol i gynnwys gwaelodlin gyffredin o wybodaeth ym mhob cynllun gofal a chymorth ledled y wlad. Bydd hyn yn golygu y bydd ymarferwyr yn rhannu set ddata gyffredin fel sail i wasanaethau cydgysylltiedig ac yn atal unigolyn rhag gorfod darparu’r un wybodaeth fwy nag unwaith. I gael canllawiau pellach ar y set ddata graidd, darllenwch y cod ymarfer ar Ran 3: Asesu ac Adolygu.

 

79. Bydd y data craidd wedi’i gasglu yn ystod yr asesiad ac ni ddylai fod angen ei gasglu eto, er efallai y bydd angen gwirio ei gywirdeb a’i ddiweddaru. Dylai’r ymarferydd arweiniol sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r broses o gynllunio ac adolygu’r gofal a’r cymorth gael y wybodaeth hon o’r cofnod o’r asesiad a’i throsglwyddo i’r cynllun gofal a chymorth.

 

80. I lawer o bobl, mae gallu defnyddio’r Gymraeg yn eu galluogi i gyfathrebu a chyfrannu at eu gofal fel partneriaid cyfartal. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnwys yn y broses o gynllunio gofal a chymorth a sicrhau bod unigolion a’u teuluoedd yn gallu cyfrannu’n llawn at y broses o gynllunio gofal a chymorth trwy sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael mewn fformat sy’n hygyrch iddynt trwy’r dull cyfathrebu o’u dewis.

Cynnwys Cynlluniau Gofal a Chymorth

81. Gallai cynllun gofal a chymorth gwmpasu un gwasanaeth sy’n diwallu un angen gofal a chymorth neu fwy, neu fod yn fwy cymhleth, gan gwmpasu amryw o wahanol wasanaethau sy’n diwallu un angen neu fwy. Gallai cynllun gofal a chymorth gynnwys camau gweithredu a reolir gan yr unigolyn ochr yn ochr â’r rhai a reolir gan yr awdurdod lleol.

 

82. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt systemau technoleg gwybodaeth i gefnogi’r broses o gynllunio gofal i sicrhau bod y cynllun gofal yn cael ei gofnodi’n electronig. Nid yw hyn yn atal awdurdodau lleol rhag darparu copïau i unigolion yn y fformat o’u dewis a’r fformat mwyaf hygyrch.

 

83. Cyfrifoldeb yr ymarferydd sydd wedi datblygu’r cynllun gyda’r unigolyn (gan gynnwys unrhyw gymorth eiriolaeth ffurfiol neu anffurfiol) yw sicrhau bod yna gadarnhad clir a chryno o’r camau cytunedig, a phwy fydd yn cymryd y camau hynny o fewn y cynllun.

 

84. Rhaid i Gynlluniau Gofal a Chymorth roi sylw i’r canlynol:

·         y canlyniadau sydd wedi’u nodi mewn perthynas â’r person y mae’r cynllun yn berthnasol iddo;

·         y camau i’w cymryd gan yr awdurdod lleol a phobl eraill i helpu’r person i gyflawni’r canlyniadau hynny;

·         yr anghenion a ddiwellir trwy ddarparu gofal a chymorth;

·         sut y bydd cynnydd tuag at gyflawni’r canlyniadau hynny yn cael eu monitro a’u mesur;

·         dyddiad yr adolygiad nesaf o’r cynllun gofal.

 

85. Os yn briodol, dylai cynlluniau Gofal a Chymorth hefyd amlinellu:

·         swyddogaethau a chyfrifoldebau’r unigolyn, gofalwyr ac aelodau’r teulu ac ymarferwyr; 

·         yr adnoddau (gan gynnwys adnoddau ariannol) sy’n ofynnol gan bob parti.

 

86. Os bydd rhai neu bob un o anghenion y person yn cael eu diwallu trwy wneud taliadau uniongyrchol, rhaid i gynllun gofal a chymorth a chynllun cymorth gynnwys disgrifiad o’r canlynol hefyd:

·         yr anghenion i’w diwallu gan daliadau uniongyrchol; a

·         chyfanswm a mynychder y taliadau uniongyrchol.

 

87. Os yw’r awdurdod lleol wedi gwneud ymholiadau yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 126 (2) o’r Ddeddf (oedolion sy’n wynebu risg), neu adran 47 o Ddeddf Plant 1989, rhaid i’r cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn y mae’r ymholiadau hynny yn sôn amdano gynnwys cofnod o gasgliad yr ymholiadau. Dylai’r casgliad gynnwys a yw’r person yn wynebu risg ai peidio a pha gamau y dylid eu cymryd a chan bwy. Os bydd cynllun gofal a chymorth yn cael ei wrthod, neu os na fydd yn ofynnol os bydd yr asesiad yn dod i’r casgliad y gall anghenion gael eu diwallu trwy ddull arall, dylai canfyddiadau ymholiadau gael eu cofnodi yn y cofnod achos unigol fel y nodir yn y Canllawiau Statudol mewn perthynas â Rhan 7 o’r Ddeddf. Gall y Cynllun Gofal hefyd ymgorffori unrhyw gynllun diogelu sydd ar waith.

  

88. Rhaid i Gynlluniau Gofal a Chymorth gynnwys dyddiad clir, a gytunir gyda’r unigolyn a/neu ei deulu, ar gyfer adolygu’r cynllun. Fodd bynnag:

·         yn achos plentyn, rhaid i’r dyddiad adolygu fod o fewn 6 mis

·         yn achos oedolyn, rhaid i’r dyddiad adolygu fod o fewn 12 mis.

 

89. Rhaid i awdurdodau lleol a’u partneriaid sicrhau bod trefniadau ar waith i adolygu neu ailasesu’r cynllun yn gynt os yw’n ymddangos nad yw’r cynllun presennol yn diwallu anghenion yr unigolyn neu’r teulu.

 

 

Ystyriaethau Cyffredin ar gyfer Cynlluniau Gofal a Chymorth

90. Dylai’r egwyddorion canlynol fod yn sail i’r broses o baratoi cynlluniau gofal a chymorth a dylent gael eu defnyddio fel sail i brofi addasrwydd unrhyw drefniadau lleol neu arbenigol:

 

·         Canolbwyntio ar bobl: Bydd barn a dymuniadau’r unigolyn a’r teulu yn llywio’r dull o ymgysylltu â’r gwasanaethau lle bo hyn yn briodol. Bydd hyn yn cynnwys yr opsiwn o unigolion yn derbyn taliadau uniongyrchol i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion cymorth.

·         Blaenoriaethu llesiant: Bydd gwasanaethau yn adeiladu ar gryfderau a medrau pobl a theuluoedd ac yn eu galluogi i gynnal lefel briodol o ymreolaeth gyda’r lefel briodol o ofal a chymorth, cyn belled â bod hyn yn gyson â’u llesiant.

·         Seiliedig ar ganlyniadau: Bydd gwaith gyda phobl a theuluoedd yn seiliedig ar ddadansoddiad cynhwysfawr o anghenion, canlyniadau personol, risgiau a’r cryfderau a’r medrau sydd ar gael i bobl a theuluoedd.

·         Cynnwys y gymuned ehangach, y teulu a gofalwyr: Cydnabod cyfraniad y gymuned ehangach, y teulu a gofalwyr a cheisio darparu cymorth iddynt pan fo hynny’n briodol.

·         Cymesuredd: Bydd y ddarpariaeth gofal a chymorth yn briodol i anghenion y person neu’r teulu. Bydd yr holl ymarferwyr yn gwneud cyfraniad rhagweithiol at helpu pobl a’u teuluoedd i gael help a chymorth cynnar, priodol.

·         Defnyddio iaith a dulliau cyfathrebu priodol: Bydd unigolion a’u teuluoedd yn gallu cyfrannu’n llawn at y broses o gynllunio eu gofal a’u cymorth trwy fanteisio ar yr holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael mewn fformat sy’n hygyrch iddynt, gan gynnwys trwy’r iaith a’r dull cyfathrebu o’u dewis.    

o   Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth mewn fformatau a ffyrdd sy’n hygyrch i bobl fyddar a dall yn ôl yr angen i fodloni’r egwyddor hon.

o   Dylai gwybodaeth fod yn hygyrch trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gan adlewyrchu Strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Mwy na geiriau....’. Yn arbennig, rhaid ymgorffori’r egwyddor Cynnig Gweithredol i sicrhau nad oes rhaid i unigolion ofyn am eu hiaith ddewisol. Mae hyn yn golygu y dylai’r awdurdod lleol fod yn rhagweithiol yn ei ddull ac y dylid gofyn i’r unigolyn pa iaith yr hoffai ei defnyddio ar ddechrau’r broses. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gallu derbyn gwasanaethau yn eu hiaith eu hunain gydol y broses o nodi a diwallu anghenion gofal a chymorth.

·         Clir: Bydd gwaith gydag unigolion a theuluoedd yn syml ac yn ddealladwy iddynt. Bydd pobl yn cael eu hysbysu am y broses a’u hawliau. Bydd cymorth yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio. Ni ddylai hyn allgau arferion arloesol.

·         Diogelu ac amddiffyn: Bydd pob ymarferydd yn effro i unrhyw risg o niwed i’r unigolyn neu i eraill – gan gynnwys eraill yn eu gofal. Bydd yr asesiad a’r cynlluniau gofal a chymorth yn archwilio’r ymatebion posibl i’r risgiau hynny ac yn cytuno ar ddulliau o reoli a/neu liniaru risg.

·         Integredig: Bydd cymorth i bobl a theuluoedd yn seiliedig ar fframwaith cyson a chyffredin ar draws gwasanaethau, ac yn cael ei weithredu gan ymarferwyr er mwyn sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol ac effeithiol at ofal a chymorth diogel.

·         Amlasiantaethol: Sicrhau bod holl swyddogaethau a chyfrifoldebau gwahanol asiantaethau sy’n cyfrannu at lesiant unigolyn yn cael eu cynnwys i hyrwyddo cydweithredu a dull integredig o gynllunio a darparu gofal a chymorth.

·         Cynaliadwy: Bydd gwasanaethau yn seiliedig ar ddulliau sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn gost-effeithiol ac yn cadw teuluoedd gyda’i gilydd lle bo hynny’n ddiogel a phriodol. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi pobl yn eu cartrefi a lleihau’r potensial y bydd cymorth yn cael ei golli. Ni ddylai hyn allgau arferion arloesol.

·         Gwybodus: Bydd gwybodaeth ac asesiadau arbenigol ar berson, teulu neu ofalwr yn cael eu rhannu rhwng asiantaethau perthnasol os bydd yr unigolyn yn cytuno i hynny, a bydd y cwmpas a’r manylder yn briodol i anghenion y person.

·         Teg: Bydd gwasanaethau a systemau yn darparu cyfle cyfartal ac yn parchu amrywiaeth anghenion.

·         Darparu gan y bobl iawn: Bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu trwy gymysgedd priodol o staff profiadol a chymwys.

·         Mesur perfformiad: Bydd effeithiolrwydd gwasanaethau gofal a chymorth yn cael ei farnu yn seiliedig ar gyfuniad o adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd a chydweithwyr, gwerthusiad lleol rheolaidd gyda defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill a mesurau perfformiad cenedlaethol sy’n gysylltiedig â’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol.

 

91. Rhaid i gwmpas a manylder y broses o gynllunio gofal a chymorth fod yn briodol i anghenion yr unigolyn. Bydd cymhlethdod neu ddifrifoldeb angen y person neu’r teulu yn pennu cwmpas a manylder y cynllun gofal a chymorth ac ystod yr ymyriadau, gan gynnwys y math o gymorth a mynychder adolygiadau.

 

92. Rhaid i’r broses o nodi anghenion gofal a chymorth a pharatoi cynllun gofal a chymorth sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso i fynegi eu hanghenion ac yn gallu cyfrannu’n llawn fel partneriaid cyfartal.

 

93. Rhaid i unigolyn deimlo ei fod yn bartner cyfartal yn ei berthynas â gweithwyr proffesiynol. Mae unrhyw unigolyn yn gallu gwahodd rhywun o’i ddewis i’w helpu i gyfrannu’n llawn a mynegi ei farn, ei ddymuniadau a’i deimladau. Gall y cymorth hwn gael ei ddarparu gan ffrindiau, teulu neu rwydwaith cymorth ehangach rhywun. 

 

94. Mae’r cod ymarfer penodedig ar eiriolaeth o dan Ran 10 o’r Ddeddf yn amlinellu’r swyddogaethau lle mae’n rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r unigolyn, wneud penderfyniad ar sut y gallai eiriolaeth gefnogi’r gwaith o benderfynu ar ganlyniadau personol unigolyn a’u darparu; ynghyd â’r amgylchiadau lle mae’n rhaid i awdurdod lleol drefnu eiriolwr proffesiynol annibynnol. Rhaid i weithwyr proffesiynol ac unigolion sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â’r anghenion am eiriolaeth yn rhan annatod o’r dyletswyddau perthnasol o dan y cod hwn.

 

95. Dylai’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r cynllun gofal a chymorth, y cynllun cymorth neu’r datganiad cau (fel sy’n briodol) i’r person y mae’r cynllun neu’r datganiad cau yn berthnasol iddo ac i unrhyw berson sydd ag awdurdod i weithredu ar ran y person hwnnw. Rhaid i’r cynlluniau hyn fod ar gael yn iaith ddewisol y person ac mewn fformat sy’n hygyrch iddo trwy ei ddull cyfathrebu dewisol.

Hyd Ymweliadau

96. Os yw’r cynllun gofal a chymorth yn golygu ymweld â chartref y person at ddiben darparu gofal a chymorth, rhaid i’r ymweliadau hyn bara digon hir i sicrhau darpariaeth briodol y gofal a’r cymorth a nodwyd i ddiwallu’r anghenion asesedig a chyfrannu at alluogi’r person i gyflawni ei ganlyniadau personol. Rhaid i hyd yr ymweliadau hyn gael ei nodi yn y cynllun gofal a chymorth.

Dyletswyddau i Baratoi Cynlluniau Gofal a Chymorth yn Gorgyffwrdd

97. Efallai y bydd y broses o baratoi, adolygu neu ddiwygio cynllun gofal a chymorth yn gysylltiedig â’r broses o baratoi, adolygu neu ddiwygio cynlluniau gan gyrff eraill ar gyfer y person dan sylw. Gall awdurdodau lleol gydgysylltu’r gwaith o baratoi ac adolygu cynlluniau os yw corff arall yn paratoi cynllun perthnasol yr un pryd.

 

98. Os yw dyletswyddau i baratoi cynlluniau a ragnodir yn genedlaethol neu’n gyfreithiol (er enghraifft, Cynllun Gofal a Thriniaeth a ragnodir o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 neu ‘gynllun adran 31A’ a baratoir at ddibenion Rhan 4 o Ddeddf Plant 1989) yn gorgyffwrdd, ac os oes yna gynllun sy’n bodloni gofynion cynllun gofal a chymorth, gall y gwaith o baratoi, darparu ac adolygu’r cynllun hwnnw gael ei ystyried fel y ffordd y gall yr awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau i baratoi, darparu ac adolygu cynllun gofal a chymorth.

 

99. Mae yna hefyd ddyletswydd sy’n gorgyffwrdd mewn perthynas ag asesiadau ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a’r Rheoliadau a’r Canllawiau cysylltiedig. Mae’r ddyletswydd i baratoi cynllun cymorth mabwysiadu yn cael ei gwella gan ddarpariaethau’r Ddeddf hon. Yn dilyn yr asesiad, os bydd yr awdurdod lleol yn fodlon bod yr amodau a’r cymhwystra ar gyfer cynllun gofal a chymorth yn cael eu bodloni, rhaid iddo baratoi cynllun gofal a chymorth yn unol â’r Rheoliadau hyn a’r Cod Ymarfer hwn. Mae cymhwystra a’r hawl i wasanaethau cymorth mabwysiadu yn aros fel yr amlinellir yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a’r Rheoliadau a’r Canllawiau cysylltiedig.

 

100.      Os oes yna gynlluniau llesiant neu arbenigol nad ydynt yn bodloni gofynion cynllun gofal a chymorth, rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod ymarferwyr yn rhoi sylw i ofyniad y rheoliadau ar gynllunio gofal a rhaid i’r Cod Ymarfer hwn gyfuno’r trefniadau gofal mewn un cynllun gofal a chymorth integredig. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau yn ymwneud â diogelu’r unigolyn.

 

101.      Mae’r adran ar rannu gwybodaeth (isod) yn amlinellu’r cyfrifoldebau sydd gan asiantaethau i rannu gwybodaeth briodol a pherthnasol rhwng ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau er mwyn cefnogi’r gwaith o baratoi, darparu ac adolygu un cynllun gofal a chymorth integredig sy’n diwallu anghenion asesedig yr unigolyn neu’r teulu.

Rhannu Gwybodaeth

102.      Mae’r parodrwydd a’r gallu i rannu gwybodaeth briodol a pherthnasol rhwng ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau yn rhan annatod o ddarpariaeth gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol.

 

103.      Mae’r broses o gynllunio gofal a chymorth a amlinellir yn y cod yn seiliedig ar yr egwyddor o weithio gyda phobl fel partneriaid llawn i nodi a diwallu eu hanghenion gofal a chymorth. Mae’r wybodaeth yn y cynllun gofal a chymorth yn eiddo i’r person y mae ei anghenion yn cael eu diwallu trwy’r cynllun hwnnw, a rhaid i ymarferwyr sy’n cynllunio gofal a chymorth sicrhau bod y person sy’n rhoi’r cydsyniad i rannu’r wybodaeth yn deall yr hyn y mae’n cydsynio iddo a goblygiadau rhoi neu beidio â rhoi’r cydsyniad hwn.

 

104.      Dylai gweithio gydag unigolion a theuluoedd mewn perthynas broffesiynol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, parch a hyder helpu i sicrhau na fydd y sgwrs hon yn un anodd. Bydd bod yn agored ac yn onest, gan gynnwys bod yn glir ynglŷn â rhannu gwybodaeth a pharchu dymuniadau pobl lle bo hynny’n bosibl, yn helpu i gynnal yr ymddiriedaeth a’r hyder hyn. Mae’r sgwrs hon yn rhan annatod o sicrhau bod yr ymarferydd yn deall anghenion y person a’r ffordd orau o ddiwallu’r anghenion hynny, gan gynnwys pa ymarferwyr eraill fydd yn gallu eu cefnogi.

 

105.      Mae’r cod hwn yn cefnogi argymhellion Caldicott 2[2], sy’n nodi’r canlynol: “…. there should be a presumption in favour of sharing for an individual’s direct care and that the exceptions should be thoroughly explained, not vice versa. The motto for better care services should be: ‘To care appropriately, you must share appropriately’.” Felly, dylid rhagdybio bod yr holl wybodaeth yn cael ei rhannu.

 

106.      Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda’u partneriaid i roi systemau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth yn y set ddata graidd genedlaethol ar gyfer unrhyw unigolyn neu deulu yn cael ei rhannu’n ddiogel ac yn briodol rhwng partneriaid. Bydd hyn yn cynnwys fframwaith rhannu gwybodaeth Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru[3] (WASPI) a datblygu cytundebau rhannu gwybodaeth sy’n cydymffurfio â WASPI a ddylai sicrhau y bydd y trefniadau a roddir ar waith yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998.

 

107.      Rhaid i awdurdod lleol sicrhau hefyd fod staff yn derbyn cymorth a hyfforddiant priodol ar rannu gwybodaeth a chydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data. Rhaid i staff sy’n defnyddio’r data allu trafod data yn dda a bod yn ymwybodol o faterion diogelwch. Rhaid i unigolion a theuluoedd gael eu hysbysu am y rhannu hwn ar ddechrau’r broses asesu a chynllunio gofal a chymorth.

 

108.      Os nodir bod plentyn neu oedolyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, dylid rhagdybio y bydd yr holl wybodaeth yn cael ei rhannu rhwng partneriaid perthnasol yn ddi-oed, cyn belled â bod hynny’n gyfreithlon ac yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a chanllawiau cysylltiedig.

Hygludedd Cynlluniau Gofal a Chymorth

109.      Pan fydd unigolyn sy’n derbyn gwasanaethau neu gymorth trwy gynllun gofal a chymorth wedi hysbysu’r awdurdod y mae’n bwriadu symud ohono y bydd yn symud i ardal arall yng Nghymru a bod yr awdurdod yn fodlon bod y symud yn debygol o ddigwydd, rhaid i’r awdurdod hwnnw (“yr awdurdod anfon”) gyflwyno’r wybodaeth hon i’r awdurdod y mae’r unigolyn yn bwriadu symud iddo (“yr awdurdod derbyn”) a sicrhau bod y wybodaeth yn yr asesiad a’r cynllun gofal a chymorth ar gael i’r awdurdod newydd yn syth. Yr un pryd, rhaid i’r awdurdod derbyn, os yw’n fodlon bod y symud yn debygol o ddigwydd, gynnal asesiad newydd o anghenion y person, gan roi sylw i unrhyw newid yn anghenion gofal a chymorth y person o ganlyniad i’r symud. Os na fydd asesiad o’r fath wedi’i gynnal erbyn y diwrnod y bydd y person yn symud, rhaid i’r awdurdod derbyn, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddiwallu anghenion gofal a chymorth y person yn unol â’r cynllun gofal a chymorth a baratowyd gan yr awdurdod anfon, hyd nes y bydd asesiad newydd yn cael ei gynnal.

 

110.      Nid yw’r trefniadau hygludedd hyn yn berthnasol os yw’r awdurdod anfon yn diwallu anghenion person yn unol â’i bŵer dewisol. Mewn achosion o’r fath, bydd dyletswydd ar yr awdurdod derbyn yr un fath i gynnal asesiad newydd (yn unol â’i gyfrifoldebau o dan adran 19 neu adran 21 o’r Ddeddf).

 

111.      Mewn achosion lle mae gofalwr yn symud i ardal awdurdod lleol arall ond nad oes newid i gartref y person sy’n derbyn gofal, nid yw’r trefniadau hygludedd yn berthnasol gan mai’r un awdurdod lleol sy’n gyfrifol am baratoi a chynnal a chadw’r cynllun cymorth ar gyfer y gofalwr.

 

112.      Mae yna ddisgwyliad y bydd arfer da yn berthnasol pan fydd person yn symud ar draws ffiniau cenedlaethol fel bod cyn lleied o darfu â phosibl ar y gofal a’r cymorth a ddarperir i’r person hwnnw. Mae egwyddorion trawsffiniol y DU ar barhad gofal wedi’u datblygu, ac maent wedi’u cynnwys yn Atodiad 2. Dylai awdurdodau lleol ddilyn yr egwyddorion arfer da hyn pan fydd person yn symud ar draws ffiniau cenedlaethol.    

Adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth

113.      Rhaid i awdurdod lleol adolygu cynlluniau gofal a chymorth yn rheolaidd er mwyn deall a yw darpariaeth y gofal a’r cymorth hwnnw yn diwallu anghenion yr unigolyn ac ystyried a yw ei anghenion wedi newid ac a oes angen ailasesiad. Rhaid i’r dyddiad cytunedig ar gyfer adolygu’r cynllun fod wedi’i amlinellu yn y cynllun. 

 

114.      Diben adolygiad yw bwrw golwg arall ar y cynllun gofal a chymorth er mwyn:

·         monitro cynnydd a newidiadau;

·         ystyried i ba raddau mae darpariaeth y cynllun yn diwallu anghenion asesedig a sut y mae wedi helpu’r unigolyn neu’r teulu i gyflawni eu canlyniadau;

·         pennu pa gymorth sydd ei angen yn y dyfodol a chadarnhau neu ddiwygio’r gwasanaethau neu ddod â’r gwasanaethau i ben.

Rhaid i hyn gael ei adlewyrchu yn y cofnod o’r adolygiad.

 

115.      Mae adolygiad yn rhan allweddol o ofal a chymorth effeithiol a gall trefniadau da sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod yn briodol, yn benodol ac yn berthnasol i’r unigolyn ac annog yr unigolyn i barhau i gymryd rheolaeth dros ei gymorth.

 

116.      Rhaid i’r trefniadau adolygu sicrhau bod yr unigolyn a/neu ei ofalwr, aelodau’r teulu neu eiriolwr yn cyfrannu’n weithredol at yr adolygiad.

 

117.      Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys y person y mae’r cynllun yn berthnasol iddo ac, yn achos cynllun gofal a chymorth yn ymwneud â phlentyn, unrhyw berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Yn achos cynllun gofal a chymorth yn ymwneud ag oedolyn, rhaid i’r awdurdod gynnwys gofalwr y person hefyd, lle bo hynny’n ymarferol. Yn achos cynllun cymorth yn ymwneud â gofalwr, rhaid i’r awdurdod gynnwys y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano neu’n bwriadu gofalu amdano, lle bo hynny’n ymarferol. 

 

118.      Ym mhob achos, os yn briodol a chyda chytundeb y person dan sylw[4], dylai’r awdurdod lleol gynnwys y canlynol hefyd:

·         unrhyw berson y bydd y person (neu riant yn achos plentyn) yn gofyn i’r awdurdod lleol ei gynnwys;

·         ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill sydd wedi cynnal asesiad cysylltiedig neu y bydd angen iddynt wneud hynny;

·         ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill ag arbenigedd yn amgylchiadau neu anghenion y person dan sylw;

·         unrhyw berson arall, gan gynnwys gofalwyr, y mae’r awdurdod lleol o’r farn ei fod yn gwneud cyfraniad sylweddol at y trefniadau gofal a chymorth ar gyfer y person; neu

·         eiriolwr.

119.      Yn achos person nad yw’n gallu cyfrannu, dylai’r awdurdod gynnwys unrhyw berson sydd ag awdurdod i wneud penderfyniadau ynglŷn â’r unigolyn o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

 

120.      Rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau pellach a diwygio’r cynllun gofal a chymorth os yw amgylchiadau’r person wedi newid. Os oedd arbenigwr yn rhan o asesiad cychwynnol y person, dylai’r awdurdod lleol ystyried a ddylai’r arbenigwr fod yn rhan o’r adolygiad. Mae cyfrifoldebau awdurdod lleol mewn perthynas â’r gofyniad hwn wedi’u hamlinellu’n fanwl yn y cod ymarfer mewn perthynas ag asesiadau ac adolygu o dan Ran 3 o’r Ddeddf. Gall asesiadau o’r fath gael eu cynnal yr un pryd ag y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal asesiad o dan ddeddfwriaeth arall neu yr un pryd ag y bydd corff arall yn cynnal asesiad o dan ddeddfwriaeth arall. Mewn achosion o’r fath, gall yr awdurdod lleol gynnal yr asesiad ar ran y corff arall, ar y cyd â’r corff arall neu ar y cyd â pherson arall sy’n cynnal yr asesiad arall.

 

121.      Rhaid i bob cynllun gofal a chymorth fod â dyddiad adolygu. Rhaid i’r dyddiad hwn gael ei gytuno neu ei osod cyn dechrau llunio’r cynllun gofal a chymorth a phob adolygiad dilynol. Rhaid i gynllun gofal a chymorth a chynllun cymorth gael eu hadolygu o fewn cyfnod a gytunir rhwng yr awdurdod lleol a’r person y mae’r cynllun yn berthnasol iddo ac unrhyw berson y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol ei gynnwys yn y gwaith o baratoi ac adolygu’r cynllun gofal a chymorth. Bydd hyn yn cynnwys eiriolwr os bydd angen i alluogi’r person i ymgysylltu a chyfrannu’n llawn at y broses o gynllunio gofal a chymorth. Yn achos plentyn, rhaid i’r dyddiad adolygu fod o fewn 6 mis ac, yn achos oedolyn, rhaid iddo fod o fewn 12 mis.

 

122.      Os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol nad yw’r cynllun gofal a chymorth yn diwallu’r anghenion asesedig, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal adolygiad, beth bynnag yw’r dyddiad adolygu cytunedig. Gall yr adolygiad hwn fod ar gais yr unigolyn, pobl â chyfrifoldeb rhiant neu unrhyw berson ag awdurdod i weithredu ar ei ran.

 

123.      Os yw’r cynllun yn cynnwys manylion taliadau uniongyrchol, rhaid i unrhyw adolygiad o’r taliadau uniongyrchol gynnwys adolygiad o’r cynllun gofal a chymorth. Os yw rhywun yn derbyn taliadau uniongyrchol a bod yr adolygiad o’r cynllun gofal a chymorth yn arwain at newid i’r cynllun gofal a chymorth, rhaid cynnal adolygiad o’r taliadau uniongyrchol.

Cau

124.      Rhaid i adolygiad gael ei gynnal cyn i gynllun gofal gael ei gau.

 

125.      Yn dilyn yr adolygiad, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried a ddylai gadarnhau, diwygio neu gau’r cynllun. Os penderfynir cadarnhau’r cynllun, rhaid i’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad gael eu cofnodi. Os penderfynir cau’r cynllun, rhaid i’r awdurdod lleol baratoi datganiad cau.

 

126.      Rhaid peidio â chau cynllun gofal tra bod person ifanc yn hysbys i’r Tîm Troseddwyr Ifanc.

 

127.      Os mai’r bwriad yw rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaethau, rhaid i’r adolygiad gynnwys datganiad cau sy’n rhoi sylw i’r rhesymau dros y cau, gwerthusiad o i ba raddau y cyflawnwyd y canlyniadau a chadarnhad bod gan yr unigolyn neu’r teulu wybodaeth, cyngor neu gymorth priodol a/neu fynediad at wasanaethau ataliol cymunedol i ddiwallu eu hanghenion. Rhaid i’r datganiad cau gael ei gofnodi.

Taliadau Uniongyrchol

128.      Ystyr taliadau uniongyrchol yw symiau ariannol a roddir gan awdurdodau lleol i unigolion, neu eu cynrychiolydd, i’w galluogi i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth neu, yn achos gofalwyr, eu hanghenion cymorth. Mae taliadau uniongyrchol yn fecanwaith pwysig y mae pobl yn ei ddefnyddio i arfer dewis, llais a rheolaeth i benderfynu sut i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth a chyflawni eu canlyniadau personol. Felly, mae taliadau uniongyrchol o’r fath yn rhan annatod o’r gwaith o ddiwallu anghenion pobl trwy gynlluniau gofal a chymorth, a rhaid iddynt beidio â chael eu hystyried ar wahân nac fel ystyriaeth eilradd.

 

129.      Mae taliadau uniongyrchol yn disodli gofal a chymorth a ddarperir yn uniongyrchol, neu a gomisiynir, gan awdurdod lleol. Gallant fod ar gyfer holl anghenion gofal a chymorth person, neu rai ohonynt. Os ydynt ar gyfer rhai o anghenion person yn unig, bydd gweddill eu hanghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu mewn ffordd arall.

 

130.      O dan y Ddeddf, mae gan awdurdodau lleol bwerau i ddarparu taliadau uniongyrchol o dan:

·             adran 50 – i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn;

·             adran 51 – i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn;

·             adran 52 – i ddiwallu anghenion cymorth gofalwr.

 

Wrth ddarparu a gweithredu taliadau uniongyrchol, rhaid i awdurdodau ddilyn darpariaethau’r adran berthnasol o’r Ddeddf. Rhaid iddynt hefyd ddilyn yr adran(nau) perthnasol o’r rheoliadau ar daliadau uniongyrchol, Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015 a wnaed o dan adrannau 50, 51, 52 a 54 o’r Ddeddf. Mewn achosion lle mae’r cynllun gofal a chymorth yn nodi gofal a chymorth a fydd yn gofyn am gyfraniad ariannol gan yr unigolyn o bosibl, rhaid gwneud trefniadau i sicrhau bod yr unigolyn yn glir ynglŷn â hyn a bod asesiad ariannol yn cael ei gynnal os yw hyn yn ofynnol o dan Ran 5 o’r Ddeddf. 

Cynnig a Chwmpas Taliadau Uniongyrchol

131.      Os yw anghenion gofal a chymorth cymwys, neu anghenion cymorth cymwys yn achos gofalwr, wedi’u nodi ac os yw’r unigolyn hwnnw, neu ei gynrychiolydd, yn mynegi dymuniad i dderbyn taliad uniongrychol, rhaid i daliadau uniongyrchol fod ar gael ym mhob achos lle maent yn galluogi canlyniadau personol i gael eu cyflawni. Rhaid i awdurdod lleol fod yn arloesol a chreadigol wrth weithio mewn partneriaeth â derbynwyr neu eu cynrychiolwyr i archwilio ffyrdd o ddefnyddio taliad uniongyrchol i sicrhau’r canlyniadau personol. Ni ddylid gwrthod taliadau uniongyrchol oni bai y daw’n glir ar ôl archwiliad manwl na fyddai taliad uniongyrchol yn sicrhau’r canlyniadau gofynnol.

 

132.      Ni ddylid gwrthod taliad uniongyrchol yn unig am na all yr unigolion reoli’r taliad neu am ei fod yn ansicr ynglŷn â rheoli’r taliad. Rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r person, archwilio’r holl opsiynau ar gyfer helpu’r unigolyn i reoli taliad uniongyrchol. Os nodir meysydd o anhawster, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod y lefel briodol o gymorth i oresgyn rhwystrau o’r fath ar gael.

 

133.      Gellir darparu taliadau uniongyrchol ar gyfer unrhyw angen am ofal a chymorth y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei ddiwallu. Mae hyn yn cynnwys gofal a chymorth cymunedol a gofal a chymorth preswyl tymor byr a hir. Fodd bynnag, mae adran 47 o’r Ddeddf yn atal awdurdodau lleol rhag diwallu anghenion trwy ddarparu gofal iechyd, oni bai y byddai gwneud hynny yn ychwanegol at wneud rhywbeth arall i ddiwallu anghenion dinesydd. O ganlyniad, mae cyfyngiad o’r fath yn berthnasol i ddarparu taliad uniongyrchol. 

 

134.      Wrth ddatblygu cynlluniau gofal a chymorth a ddarperir trwy daliad uniongyrchol, rhaid i awdurdod lleol fod yn fodlon y gall gofynion a chanlyniadau personol y person gael eu cyflawni, ac y byddant yn cael eu cyflawni trwy’r ddarpariaeth hon. Os bydd anghenion person yn amrywio dros amser, rhaid i awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â’r unigolyn, neu ei gynrychiolydd, i gytuno ar sut i ddefnyddio’r taliad uniongyrchol i sicrhau gofal a chymorth sy’n amrywio yn unol â gofyniad.

 

135.      Os bydd yna rwystrau i gyflawni canlyniadau personol, rhaid i awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â’r unigolyn, neu ei gynrychiolydd, i archwilio ffyrdd eraill o oresgyn y rhwystrau hynny.

 

136.      Rhaid i awdurdodau lleol hyrwyddo hunanreolaeth a cheisio gwella annibyniaeth trwy alluogi pobl i wneud cyfraniad gweithredol at y broses o lywio eu gofal a’u cymorth. Wrth ddatblygu a darparu taliad uniongyrchol, rhaid i awdurdod lleol annog a helpu pobl i bennu eu canlyniadau personol eu hunain a’r gofal a’r cymorth sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r rhain, gan ystyried eu rhwydweithiau cymorth presennol. Rhaid i bobl gael eu hannog i ddod o hyd i ffyrdd creadigol, hyblyg ac arloesol i gyflawni eu canlyniadau personol.

Y Gallu i Gydsynio – Penodi Person Addas

137.      Os na fydd oedolyn yn gallu rheoli taliad uniongyrchol neu os bydd yn dewis peidio â rheoli’r taliad ei hun, gall y taliad uniongyrchol gael ei dalu i, a’i reoli gan, rywun sy’n gweithredu ar ei ran - ‘Person Addas’. Gall person addas gael ei benodi gan lys i weithredu ar ran unigolyn, cael ei benodi gan awdurdod lleol neu fod yn rhywun y mae’r unigolyn yn ei ddewis i weithredu ar ei ran (gweler Y Gallu i Gydsynio, paragraffau 142-145). Gall person addas gael cymorth i reoli taliad uniongyrchol hefyd, os bydd angen.

Derbynwyr Taliadau Uniongyrchol fel Cyflogwyr

138.      Os defnyddir taliad uniongyrchol i gyflogi rhywun, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod derbynwyr, neu eu cynrychiolwyr, yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol fel cyflogwr ac yn derbyn y cymorth a’r adnoddau angenrheidiol i reoli eu cyfrifoldebau cyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys helpu derbynwyr i sicrhau bod gan weithwyr cyflogedig hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. 

Cyfrifo Swm Taliadau Uniongyrchol

139.      Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gwerth taliad uniongyrchol a wneir yn gyfwerth â’i amcangyfrif o’r gost resymol o sicrhau’r gofal a’r cymorth gofynnol, yn amodol ar unrhyw gyfraniad neu ad-daliad y mae’n ofynnol i’r derbynnydd ei wneud. Rhaid i’r gwerth fod yn ddigonol i alluogi’r derbynnydd, neu ei gynrychiolydd, i sicrhau’r gofal a’r cymorth gofynnol i safon y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn rhesymol. Er nad oes yna gyfyngiad ar uchafswm neu isafswm taliad uniongyrchol, rhaid iddo fod yn ddigonol i alluogi’r canlyniadau i gael eu cyflawni.

 

140.      Wrth gyfrifo gwerth taliad uniongyrchol, rhaid i awdurdod lleol gynnwys costau cynhenid sy’n gysylltiedig â bod yn gyflogwr cyfreithiol neu drwy ddarparu cymorth ariannol digonol i brynu gwasanaeth cyfreithiol digonol i sicrhau bod y derbynnydd yn cydymffurfio â chyfreithlondeb bod yn gyflogwr. Rhaid i awdurdod lleol ystyried hefyd gynnwys, fesul achos, costau dewisol sy’n gysylltiedig â’r gofynion ar gyfer cyflawni canlyniadau personol y derbynnydd. Er enghraifft, rhwymedigaethau anstatudol megis taliad bonws ex gratia.

 

141.      Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ganddo’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ffactorau allanol megis newidiadau rheoliadol a wneir gan lywodraeth ganolog a allai bennu gwerth taliad. Rhaid i addasiadau i ymgorffori unrhyw newidiadau gael eu gwneud mewn ffordd amserol.

Adolygu Taliadau Uniongyrchol

142.      Rhaid i awdurdod lleol adolygu’r trefniadau ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol a sut y maent yn cael eu defnyddio ar adegau a bennir gan yr awdurdod lleol yn unol â’r gofynion yn y cod hwn ar gyfer adolygu cynlluniau gofal a chymorth, ond yn sicr o fewn 6 mis i’r dyddiad y gwnaed y taliad cyntaf ac o fewn 12 mis i’r adolygiad cyntaf.

Gweithredu Taliadau Uniongyrchol

Datblygu Taliadau Uniongyrchol

143.      Yn ogystal â gweithio gydag unigolion i ddatblygu ffyrdd o fodloni eu gofynion, rhaid i awdurdod lleol ddatblygu ei gynllun taliadau uniongyrchol fel y bydd yn gallu ymateb i atebion a chanlyniadau a bod yn fwy perthnasol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Rhaid i awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â darparwyr gofal a chymorth lleol i gefnogi mentrau a fydd yn cyflawni canlyniadau llesiant yn y ffordd draddodiadol a thrwy ddatblygu mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol taliadau uniongyrchol sy’n cael eu harwain gan ddinasyddion.

 

Gwybodaeth a Chymorth

144.      Rhaid i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth a chymorth hygyrch a phriodol i alluogi pobl, neu eu cynrychiolwyr, i benderfynu a ydynt am dderbyn taliadau uniongyrchol. Rhaid i’r wybodaeth a’r cymorth a ddarperir fod yn addas i ddiwallu eu hanghenion cyfathrebu ac yn ddigonol fel y gall y person, neu ei gynrychiolydd, wneud penderfyniad gwybodus.

145.      Rhaid i awdurdod lleol ddatblygu gwasanaethau cymorth lleol ar gyfer derbynwyr taliadau uniongyrchol sy’n gallu darparu’r help a’r cymorth sydd eu hangen ar dderbynnydd, neu ei gynrychiolydd, i dderbyn a rheoli taliad uniongyrchol. Rhaid i wasanaethau cymorth allu bodloni gofynion cymorth derbynnydd i’w alluogi i gyflawni ei ganlyniadau personol. Rhaid i awdurdodau lleol archwilio, mewn partneriaeth â derbynwyr, y gwahanol fodelau a’r ffyrdd y gall cymorth gael ei ddarparu i sicrhau bod y trefniadau sydd ganddynt ar waith yn effeithiol, yn gallu ymateb i ofynion derbynwyr ac yn canolbwyntio ar y person.

146.      Er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â derbyn taliad uniongyrchol ai peidio, mae angen i unigolion ddeall beth mae rheoli taliad uniongyrchol yn ei olygu. Rhaid i awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu cyn gynted â phosibl yn y broses, wybodaeth a chymorth ar yr hyn y bydd derbyn taliadau uniongyrchol yn ei olygu a sicrhau bod y person yn gwerthfawrogi hynny’n llawn.

147.      Mae mwy i reoli taliadau uniongyrchol na thrafod arian. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y rhai sy’n gwneud cais am daliad uniongyrchol yn deall hyn ac yn deall ei fod yn golygu y bydd rhaid iddynt wneud eu trefniadau eu hunain i sicrhau eu gofal a’u cymorth, gyda chymorth os bydd angen. Os yn briodol, rhaid i unigolion gael eu cynghori y gallant dderbyn taliadau uniongyrchol hyd yn oed os ydynt yn rheoli rhan ohonynt neu os nad ydynt yn eu rheoli o gwbl, a bod eu cynrychiolydd yn rheoli gweddill y taliadau uniongyrchol, neu’r taliadau uniongyrchol i gyd, ar eu rhan.

148.      Wrth drafod sut y gall anghenion gael eu diwallu trwy daliadau uniongyrchol, rhaid i awdurdod lleol fod yn barod i fod yn agored i syniadau newydd a bod mor hyblyg â phosibl. Rhaid i bobl gael eu hannog i archwilio ffyrdd arloesol a chreadigol i nodi’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni canlyniadau mewn ffordd sy’n cyfateb i’w dewisiadau personol.

Y Gallu i Reoli

149.      Rhaid i awdurdod lleol weithio gyda phobl i sefydlu a ydynt yn gallu rheoli pob agwedd ar eu taliadau uniongyrchol. Rhaid cynnal trafodaethau agored, gonest a didwyll gyda’r unigolyn i nodi unrhyw agweddau ar reoli’r taliadau uniongyrchol y maent yn cael trafferthion gyda nhw.
 

150.      Lle nodir anawsterau, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y lefel briodol o gymorth i oresgyn yr anawsterau hyn ar gael. Ni ddylid gwrthod taliad uniongyrchol i unigolion am na allant reoli’r taliad neu am eu bod yn ansicr ynglŷn â rheoli taliad, neu ran o daliad. Rhaid i awdurdod lleol, mewn partneriaeth â’r person, archwilio’r holl opsiynau ar gyfer helpu’r unigolyn i reoli ei daliadau uniongyrchol; gall hyn gynnwys cymorth yn y tymor byr i helpu’r unigolyn i ymgyfarwyddo, neu gymorth yn y tymor canolig neu hir.

 

Y Gallu i Gydsynio – Penodi Person Addas

151.      Yn achos oedolion ag anghenion gofal a chymorth nad oes ganddynt alluedd at ddibenion Deddf Galluedd Meddyliol 2005, gall Taliadau Uniongyrchol gael eu gwneud i berson addas parod a phriodol sy’n derbyn a rheoli taliadau ar eu rhan. Os nad oes gan oedolyn alluedd, ac os yw person addas yn barod i dderbyn taliadau uniongyrchol ar ei ran, rhaid i’r person addas allu rheoli’r taliadau uniongyrchol ar ei ben ei hun neu gyda chymorth. Cyn belled â bod y person addas yn gallu rheoli’r taliadau uniongyrchol, naill ai gyda neu heb gymorth, a’i fod yn gweithredu er lles pennaf yr unigolyn, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu’r taliadau uniongyrchol i’r person addas hwnnw.

152.      Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y person addas yn ffrind agos neu’n aelod o’r teulu sy’n rhan o ofal a chymorth yr unigolyn. Beth bynnag yw’r berthynas, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod lles pennaf y person nad oes ganddo alluedd yn cael blaenoriaeth dros bob ystyriaeth arall. Mewn perthynas â phobl addas, rhaid rhoi blaenoriaeth i’r canlynol:

•     rhywun sydd wedi derbyn Atwrneiaeth Arhosol (LPA), ond nid LPA ariannol yn unig ar ei phen ei hun;

•     rhywun sydd wedi’i benodi’n ddirprwy i’r person sydd angen cymorth gan y Llys Gwarchod o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005;

•     rhywun sy’n cynnig gweithredu fel person addas ac y mae’r awdurdod lleol o’r farn ei fod yn gweithredu er lles pennaf y person nad oes ganddo alluedd;

•     rhywun y mae’r awdurdod lleol ei hun yn cytuno ei fod yn addas i weithredu fel person addas;

•     rhywun a gyflogir gan sefydliad neu drydydd parti a benodir gan awdurdod lleol i weithredu fel person addas.

144.    Rhaid i awdurdod lleol fod yn fodlon y gall anghenion a chanlyniadau personol derbynnydd taliadau uniongyrchol gael eu cyflawni trwy daliadau uniongyrchol sy’n cynnwys person addas cyn rhoi’r mecanwaith ar waith. Rhaid i’r awdurdod fod yn fodlon bod y person addas perthnasol yn gallu rheoli pob agwedd ar y taliadau uniongyrchol, neu y bydd yn gallu gwneud hynny gyda chymorth priodol.
 

145.      Rhaid i’r person addas ddeall beth mae rheoli taliadau uniongyrchol yn ei olygu. Rhaid i awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu cyn gynted â phosibl yn y broses, wybodaeth a chymorth ar yr hyn y bydd derbyn taliadau uniongyrchol yn ei olygu. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod y person addas yn deall bod ganddo gyfrifoldeb i wneud y trefniadau i gael gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn y mae’n gweithredu ar ei gyfer, a rhaid i les pennaf y person fod yn rhan annatod o’r trefniadau. Rhaid i berson addas fod yn ymwybodol ei fod yn gallu cael cymorth yn ôl yr angen.

Gwneud Taliadau

146.Rhaid i awdurdod lleol fod yn fodlon cyn iddo ddechrau gwneud taliadau bod y derbynnydd, neu ei gynrychiolydd, yn deall yr holl amodau y bydd rhaid iddo eu bodloni. Rhaid i amgylchiadau lle gall yr awdurdod lleol ystyried ceisio cael ad-daliadau gael eu trafod o’r cychwyn er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.

147.Rhaid i awdurdod lleol ystyried amgylchiadau ariannol y derbynnydd wrth benderfynu a ddylai taliad uniongyrchol fod yn daliad gros neu net. 

148.Rhaid i awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â derbynwyr taliadau uniongyrchol, neu eu cynrychiolwyr, i gytuno ar ba mor aml y dylai eu taliadau uniongyrchol gael eu gwneud. Rhaid i dderbynwyr, neu eu cynrychiolwyr, fod mewn sefyllfa i allu talu am ofal a chymorth neu dalu cyflogau staff a gyflogir pan fo taliadau ar fin cael eu gwneud. Rhaid i’r trefniadau i wneud taliadau uniongyrchol fod yn ddibynadwy, gan y gall taliadau hwyr neu anghywir effeithio ar allu’r derbynwyr i gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Rhaid i awdurdod lleol roi’r trefniant talu mwyaf priodol ar waith ym mhob achos, a rhaid iddo sicrhau bod pob derbynnydd yn glir ynglŷn â’r trefniadau sy’n berthnasol iddynt cyn i’r taliadau uniongyrchol ddechrau.   

149.Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ganddo drefniadau ar waith i wneud taliadau ychwanegol mewn argyfwng. Rhaid i dderbynwyr neu eu cynrychiolwyr fod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau hyn a sut y byddant yn cael taliadau ychwanegol os bydd argyfwng yn codi. Rhaid i’r wybodaeth hon gael ei chyflwyno o’r cychwyn i leihau’r pwysau ar y derbynnydd.

150.Mae’r hyblygrwydd mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol yn golygu bod rhaid i dderbynwyr, neu eu cynrychiolwyr, allu newid cyfanswm y taliad uniongyrchol y maent yn ei ddefnyddio o wythnos i wythnos. Rhaid iddynt allu ‘bancio’ unrhyw daliad heb ei ddefnyddio i’w ddefnyddio pan fydd anghenion ychwanegol yn codi (gall hyn fod yn arbennig o berthnasol i’r rhai y mae eu hanghenion yn amrywio). Cyn belled â bod y taliad yn cael ei ddefnyddio i gyflawni canlyniadau personol y derbynnydd, nid oes angen i batrwm wythnosol y gofal a’r cymorth gael ei bennu ymlaen llaw.

Mynd i’r Afael â Risgiau

151.Rhaid i awdurdod lleol weithio gyda derbynwyr taliadau uniongyrchol, neu eu cynrychiolwyr, i’w helpu i ysgwyddo cyfrifoldeb dros nodi a rheoli unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â darparu eu taliadau uniongyrchol, yn enwedig y rhai mewn perthynas â’u cyfrifoldebau statudol. Rhaid i dderbynwyr gael eu cefnogi i wneud dewisiadau ynglŷn â’r risgiau y maent yn gyfforddus â nhw a chymryd risgiau cadarnhaol. Rhaid i dderbynwyr taliadau uniongyrchol gael mynediad at wybodaeth amserol mewn cysylltiad â’r risgiau a nodir a sut i gael help pan fydd pethau’n mynd o’i le. Rhaid i awdurdod lleol gefnogi derbynnydd pan fydd yn codi unrhyw bryderon.

152.Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod polisïau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau presennol. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwiriadau DBS yn cydymffurfio â chanllawiau diogelu’r DBS, yn ôl y gofyn. 

 

Iechyd a Diogelwch

153.Rhaid i awdurdodau lleol helpu derbynwyr taliadau uniongyrchol i gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch sy’n codi o’u taliad uniongyrchol. Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn helpu’r derbynwyr hynny sy’n gyflogwyr gydag asesiadau iechyd a diogelwch eu gweithwyr cyflogedig a bod adnoddau ar gael i gefnogi hyn, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion codi a chario eu staff.

154.Fel rhan o’r broses, rhaid i awdurdodau lleol rannu gyda derbynwyr, neu eu cynrychiolwyr, ganlyniadau unrhyw asesiadau risg a gynhaliwyd fel rhan o’r asesiad gofal a chymorth. Mae hyn yn galluogi’r unigolyn i rannu’r asesiad risg gyda’i weithwyr cyflogedig a darparwyr gofal a chymorth.

Derbynwyr Taliadau Uniongyrchol fel Cyflogwyr

155.Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod derbynwyr taliadau uniongyrchol, neu eu cynrychiolwyr, yn gwbl ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol fel cyflogwr; mae hyn yn cynnwys helpu derbynwyr i sicrhau bod gan gyflogwyr hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Rhaid i dderbynwyr neu eu cynrychiolwyr dderbyn y cymorth a’r adnoddau angenrheidiol i reoli eu cyfrifoldebau cyflogaeth. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod yswiriant atebolrwydd cyfredol ar waith ym mhob achos a bod y derbynwyr yn gwerthfawrogi’r ffaith bod ganddynt ddyletswydd gofal cyfreithiol tuag at y rhai y maent yn eu cyflogi.

156.Wrth hyrwyddo canlyniadau personol person, gall awdurdod lleol awdurdodi taliadau uniongyrchol i dalu perthynas sy’n byw ar yr un aelwyd â’r derbynnydd os yw’n darparu gofal a chymorth neu’n rheoli taliadau uniongyrchol y derbynnydd. Wrth ystyried a fydd cyflogi’r perthynas yn darparu’r canlyniad llesiant gorau i’r unigolyn hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried barn y derbynnydd cyn dod i benderfyniad. Os oes mesurau diogelwch priodol ar waith, yn aml cyflogi perthynas sy’n byw yn yr un aelwyd yw’r ffordd fwyaf addas o ddarparu gofal gan ei fod yn galluogi a chefnogi parhad gofal, yn cydnabod dewis personol ac yn hyrwyddo ymyrraeth gynnar. Ym mhob achos, rhaid i’r awdurdod lleol, ar ôl ystyried barn y derbynnydd, fod yn fodlon mai cyflogi perthynas agos sy’n byw yn yr un aelwyd yw’r ffordd orau o hyrwyddo a chyflawni ei ganlyniadau personol.

 

Monitro Ariannol

157.Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod eu trefniadau monitro ariannol ar gyfer taliadau uniongyrchol yn gymesur. Rhaid i adroddiadau a gwblheir gan dderbynnydd taliadau uniongyrchol neu ei gynrychiolydd fod yn hawdd eu defnyddio, ac ni ddylent fod yn rhy feichus.

158.Rhaid i drefniadau monitro ariannol awdurdod lleol sicrhau na wneir unrhyw benderfyniad i ganslo neu ohirio taliad uniongyrchol heb gyfraniad y derbynnydd, neu ei gynrychiolydd, a chydgysylltwyr gofal a chymorth taliadau uniongyrchol yr awdurdod.

159.Rhaid i’r ffordd mae’r taliad uniongyrchol yn cael ei bennu, boed yn gros neu’n net o unrhyw gyfraniad, gael ei phenderfynu mewn cydweithrediad â’r awdurdod lleol a’r derbynnydd neu ei gynrychiolydd.
 

160.Wrth archwilio cyfrifon, rhaid ystyried hyblygrwydd cynhenid taliadau uniongyrchol a’r gwariant wythnosol amrywiol y mae hynny’n ei ysbrydoli. Rhaid i asedau digonol aros yng nghyfrif taliadau uniongyrchol derbynnydd i’w alluogi i fodloni ei ofynion gofal a chymorth ac unrhyw ymrwymiadau cyflogaeth sydd ganddo.

 

Pan fo Anawsterau’n Codi

161.Rhaid i awdurdod lleol ond gwneud taliadau uniongyrchol os yw’n fodlon bod yr unigolyn yn gallu rheoli’r taliad ar ei ben ei hun neu gyda chymorth. Os yw awdurdod lleol yn poeni na fydd unigolyn sydd am dderbyn taliadau uniongyrchol yn gallu rheoli’r taliadau, hyd yn oed gyda chymorth, rhaid iddo sicrhau ei fod yn ystyried a chofnodi pob ffactor perthnasol yn ymwneud â’r penderfyniad hwnnw. Rhaid cofnodi barn yr unigolyn a’r help sydd ar gael.
 

162.Ni ddylai awdurdod lleol wneud rhagdybiaethau cyffredinol ynglŷn ag a fydd grwpiau cyfan o bobl yn gallu rheoli taliadau uniongyrchol. Os bydd awdurdod lleol yn dod i’r casgliad nad yw unigolyn yn gallu rheoli taliad uniongyrchol, hyd yn oed gyda chymorth, rhaid iddo drafod gydag ef (a gydag unrhyw deulu, ffrindiau neu gynrychiolwyr, fel sy’n briodol) y rhesymau dros ddod i gasgliad o’r fath. Os na fydd unigolyn, neu ei gynrychiolydd, yn cytuno â phenderfyniad yr awdurdod, bydd ganddo hawl i ddefnyddio gweithdrefnau cwyno’r awdurdod lleol.

163.Os na fydd derbynnydd taliadau uniongyrchol yn gallu defnyddio ei daliadau uniongyrchol, rhaid i awdurdod lleol nodi’r rhesymau, a gwneud newidiadau priodol mewn partneriaeth â’r person neu ei gynrychiolydd. Gallai hyn gynnwys darparu’r taliadau uniongyrchol i gynrychiolydd, neu gynrychiolydd arall, i dderbyn a rheoli’r taliadau uniongyrchol ar ran yr unigolyn (naill ai dros dro neu’n barhaol), lle mae’r cynrychiolydd yn barod i wneud hynny.

Pryd i Wneud Cais am Ad-daliad

164.Gall awdurdod lleol ei gwneud hi’n ofynnol i’r arian neu rywfaint o’r arian y mae wedi’i dalu trwy gynllun taliadau uniongyrchol gael ei ad-dalu os yw’n fodlon nad yw wedi’i ddefnyddio i sicrhau’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen ar dderbynnydd, ac nad yw ei ganlyniadau personol wedi’u cyflawni. Gall hefyd wneud cais am ad-daliad os na fydd yr unigolyn wedi bodloni unrhyw amod y gosododd yr awdurdod lleol ar ddarpariaeth y taliadau uniongyrchol.

165.Rhaid i awdurdod lleol asesu pryd mae’n briodol iddo wneud cais am ad-daliad fesul achos, yn seiliedig ar yr amgylchiadau penodol. Rhaid iddo beidio â gweithredu polisi cyffredinol nad yw’n ystyried yr amgylchiadau penodol. Rhaid i’r cais geisio cael ad-daliad am arian sydd wedi’i ddargyfeirio o’r diben bwriedig, neu nad yw wedi’i wario o gwbl. Ni ddylai gael ei ddefnyddio i gosbi camgymeriadau gonest, ac ni ddylid ceisio cael ad-daliad os yw’r unigolyn wedi dioddef twyll.

166.Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ystyriaethau caledi wrth benderfynu a ddylai geisio cael ad-daliadau. Rhaid i awdurdod lleol ystyried efallai y bydd yna resymau dilys dros beidio â gwario’r arian, megis rhwymedigaethau cyfreithiol sy’n golygu bod angen i unigolyn greu gwarged (e.e. taliadau cyflogaeth cyfnodol at ddibenion treth neu yswiriant gwladol neu i dalu am ddarpariaeth gofal a chymorth yn gyfnodol).

Dod â Thaliadau Uniongyrchol i Ben

167.Cyn dod â thaliad uniongyrchol i ben, rhaid i awdurdodau lleol archwilio pob opsiwn ymarferol i barhau i ddiwallu anghenion gofal a chymorth derbynnydd trwy daliadau uniongyrchol. Dim ond os nad oes modd cyflawni hyn y dylid dod â’r taliad uniongyrchol i ben.

168.Rhaid i awdurdod lleol roi’r gorau i wneud taliad uniongyrchol os yw’n fodlon nad yw anghenion gofal a chymorth, neu ganlyniadau personol, y derbynnydd yn cael eu diwallu ac nad oes modd diwygio darpariaeth y taliad uniongyrchol i wneud hynny.

169.Gall derbynwyr taliadau uniongyrchol, neu eu cynrychiolwyr, benderfynu dod â’u taliadau uniongyrchol i ben unrhyw bryd. Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu dod â thaliadau uniongyrchol i ben, neu os byddant yn cael eu terfynu’n wirfoddol, a bod gan y derbynnydd anghenion gofal a chymorth a fyddai fel arall yn cael eu diwallu gan yr awdurdod, rhaid iddo wneud trefniadau eraill i’w darparu. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod derbynwyr yn ymwybodol o’r cyfrifoldebau cytundebol sydd ganddynt a’r canlyniadau y maent yn eu hwynebu wrth ddod â thaliadau uniongyrchol i ben. 

170.Os bydd derbynnydd taliadau uniongyrchol yn marw, rhaid i’r awdurdod lleol ddod â’i daliadau uniongyrchol i ben. Rhaid i’r sefyllfa hon gael ei thrin gyda sensitifrwydd a pharch. Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau enw ysgutor neu berthynas agosaf i sicrhau bod y cyfrif taliadau uniongyrchol yn cael ei gau a gwneud taliad am unrhyw gyfrifoldebau sy’n weddill heb achosi straen i’r perthnasau.


         

 

 

 


 

Atodiad 1

Senarios Achos i ddangos yr ymagwedd at gymhwystra anghenion:

 

Anableddau Dysgu

Efallai y bydd Mr Evans, dyn 45 oed ag anableddau dysgu sydd wedi bod yn byw gyda gofalwr oedrannus sydd efallai wedi bod yn oramddiffynnol a gwneud popeth drosto, angen rhyw fath o raglen ail-alluogi i’w helpu i symud i lety newydd ac ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros ofalu am ei hun. Nid yw’n gallu cyflawni gweithgareddau gofal personol sylfaenol ac efallai y bydd angen help i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol. Bydd ganddo anghenion cymwys dwys tymor byr lle mae wedi dod yn ddibynnol iawn ond mae ganddo’r potensial i ddatblygu sgiliau i’w wneud yn fwy annibynnol. Bydd yn derbyn gwasanaethau cymunedol ochr yn ochr â gwasanaethau a reolir a ddarperir trwy gynllun gofal a chymorth. Dros amser, dylai gwasanaethau gwaith cymdeithasol a llesiant cynhyrchiol helpu Mr Evans i ddatblygu sgiliau annibyniaeth fel na fydd ei anghenion yn gymwys mwyach a’i fod naill ai’n gwbl annibynnol neu’n cael ei gefnogi gan wasanaethau cymunedol yn unig.

 

Nam ar y Synhwyrau

Yn ddiweddar, cafodd Mr Davies ei ddiagnosio â nam difrifol ar y golwg (dall) ac efallai y bydd angen iddo ddatblygu sgiliau symud, cyfathrebu a bywyd (e.e. paratoi prydau bwyd) gyda swyddog adsefydlu. Efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth emosiynol i ddod i delerau â’r ffaith nad oes unrhyw driniaeth bellach ar gael i wella ei olwg. Efallai y bydd angen cyfarpar arbenigol hefyd. Os bydd modd darparu’r rhain trwy wasanaethau cymunedol – gan gefnogi gallu Mr Davies i ofalu am ei hun – ni ystyrir bod gan Mr Davies anghenion cymwys. Os na fydd unrhyw un o’r gwasanaethau hyn ar gael, neu os na fyddant yn ddigon i helpu Mr Davies i gyflawni ei ganlyniadau personol, bydd yr angen hwnnw yn dod yn angen cymwys a darperir gwasanaethau trwy gynllun gofal a chymorth.

Nam ar ddau synnwyr

Mae Iris, sy’n 78 oed, yn fyddar a dall – mae hi’n drwm ei chlyw ac yn rhannol ddall. Yn dilyn asesiad arbenigol ar gyfer pobl fyddar a dall gan asesydd cymwys, nodir canlyniad personol Iris fel a ganlyn: Rwy’n gallu cymdeithasu ac ymgysylltu â phobl yn fy nghymuned leol.

Deuir i’r casgliad y bydd Iris angen cynllun gofal a chymorth, ochr yn ochr â gwasanaethau cymunedol ataliol, i’w galluogi i gyflawni ei chanlyniad llesiant personol. Mae’r ffaith bod clyw a golwg Iris yn dirywio yn golygu y bydd hi angen cymorth un-i-un gan weithiwr cymorth arbenigol sydd wedi’i hyfforddi i weithio gyda phobl fyddar a dall i’w helpu i ddefnyddio trafnidiaeth i gyrraedd canol y dref. Mae hi’n mynd i grŵp cymdeithasol wythnosol ar gyfer pobl hŷn yn neuadd y gymuned yn ei thref ac mae hi angen i’w gweithiwr cymorth arbenigol wneud ymgysylltu cymdeithasol yn y grŵp yn hygyrch iddi.

 

Person Hŷn

Mae Mr Jones yn yr ysbyty ac mae staff yr ysbyty wedi nodi ei fod yn gymwys i dderbyn gwasanaeth ail-alluogi. Trwy asesiad cymesur, mae tîm ail-alluogi yn nodi anghenion ac yn cytuno ar ganlyniadau gyda Mr Jones a’i ofalwr, Mrs Jones. Mae Mr Jones wedi nodi ei ganlyniadau personol:

1.         Rwyf am allu golchi a gwisgo fy hun yn annibynnol

2.         Rwyf am allu cael bath ond rwyf angen help i fynd i mewn a dod allan o’r bath

3.         Rwyf am deimlo’n ddigon hyderus i allu cerdded i’r siopau lleol

4.         Rwyf am ailgydio yn rhai o’r gweithgareddau cymdeithasol rwyf wedi rhoi’r gorau iddynt dros y blynyddoedd diwethaf

Mae ail-alluogi yn cael ei ystyried fel gwasanaeth ataliol, cymunedol ac nid oes gan Mr Jones unrhyw anghenion sy’n gofyn am gynllun gofal a chymorth a reolir

Yn yr adolygiad, cytunir bod yr ail-alluogi wedi bod yn llwyddiant a bod y canlyniadau wedi’u cyflawni. Nid oes angen unrhyw gymorth pellach. Mae Mr a Mrs Jones yn cael gwybodaeth am sut i gael help os byddant ei angen yn y dyfodol. Mae Mr Jones wedi derbyn gwasanaethau sy’n adfer ei lefel gweithgarwch heb fodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer gofal a chymorth a reolir.

Fel arall, mae’r adolygiad tua diwedd y rhaglen yn dod i’r casgliad bod Mr Jones wedi adennill rhywfaint o annibyniaeth gyda chymorth y rhaglen ail-alluogi, ond ei fod angen gofal a chymorth parhaus i’w helpu gyda’i ofal personol. Mae Mr Jones bellach yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ac mae gwasanaethau gofal a chymorth a reolir yn cael eu darparu trwy gynllun gofal a chymorth. Bydd y gwasanaethau cymunedol yn parhau os ydynt yn helpu Mr Jones i gyflawni ei ganlyniadau personol a diwallu ei anghenion.

 

Plant a Theulu

Mae Megan, sy’n 6 oed, yn byw gyda’i mam a’i brawd bach, sy’n 2 oed. Mae hi’n derbyn cymorth ychwanegol yn yr ysgol, ond mae hi’n bwlio plant eraill ac yn ymddwyn yn ymosodol tuag at ei mam. Mae’r fam yn ei chael hi’n anodd ymdopi ag ymddygiad Megan.

Nid yw’r cartref wedi’i ddodrefnu’n dda nac yn cael ei wresogi, er bod yna deganau i’r plant. Cynhelir asesiad cymesur gyda rheolwr canolfan blant ac athro: darperir cyngor ymarferol ar reoli ymddygiad a gwella amodau byw yn y cartref. Darperir y gwasanaethau hyn er nad yw Megan na’i theulu angen cynllun gofal a chymorth a reolir ac nad yw eu hanghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. 

Un senario posibl yw bod y fam yn gwella ei sgiliau o ran rheoli ymddygiad Megan a bod ymddygiad Megan yn gwella gartref ac yn yr ysgol. Mae Megan bellach yn gwneud cynnydd gwell yn yr ysgol. Mae’r fam wedi cael help i ddodrefnu ei chartref gan elusen leol. Mae’r cyswllt yn dod i ben gan fod y teulu yn cyflawni’r amcanion ac nad oes angen mewnbwn ffurfiol gan wasanaethau cymdeithasol gyda chynllun gofal a chymorth ffurfiol.

Senario arall yw nad oes unrhyw welliant yn amgylchiadau’r teulu a bod yna risg ddifrifol o’r teulu’n chwalu, er nad oes problemau diogelu wedi codi. Bydd y teulu’n bodloni’r meini prawf cymhwystra gan na all ddiwallu ei anghenion a chyflawni ei ganlyniadau heb i’r awdurdod ddarparu gofal a chymorth a reolir trwy gynllun gofal a chymorth.   

Y trydydd senario yw nad yw ymddygiad Megan yn gwella gartref nac yn yr ysgol a bod y fam o dan lawer o straen wrth geisio delio ag ymddygiad Megan. Mae’r fam yn mynd â Megan i’r ysgol ac yn cyfaddef i’r athro ei bod hi wedi taro Megan ar draws cefn ei phen y noson gynt. Nawr, bydd angen rhoi gweithdrefnau diogelu ar waith. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol nawr yn rhan ffurfiol o’r broses ac mae mwy o gymorth dwys yn cael ei ddarparu a’i reoli trwy gynllun gofal a chymorth ffurfiol. Nid yw hyn yn golygu na all Megan a’i theulu gael mynediad at wasanaethau ataliol os ydynt yn dal i fod yn briodol.

 

Gofalwr

Cysylltodd Mrs Lloyd â’r gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chynhorthwy gan ei bod hi’n dioddef lefel o straen gofalwr oherwydd ei rôl ofalu. Roedd Mrs Lloyd yn ymddangos yn bryderus ac yn flinedig yn ystod yr asesiad, ond dywedodd nad oedd hi’n teimlo ei bod angen cymorth gan yr ymarferydd cyffredinol ar y pryd. Dywedodd Mrs Lloyd ei bod hi wedi colli dwy stôn o bwysau ers mis Mai. Fodd bynnag, mae Mrs Lloyd yn dweud pan gododd pwysau ei gŵr yn gyflym, i’r ddau ohonynt fynd ar ddeiet. Mae hi bellach yn teimlo bod ei gŵr wedi magu pwysau oherwydd nad yw ei gorff yn cael gwared ar yr hylif yn iawn. Dywedodd Mrs Lloyd ei bod hi’n cael trafferth cysgu ond nad oedd hi’n glir a oedd hyn oherwydd pryder neu am fod ei gŵr yn codi yn ystod y nos. Dywedodd Mrs Lloyd ei bod hi’n ymdopi a bod ei sefyllfa gyffredinol gartref wedi gwella wrth i iechyd ei gŵr wella.

Dywedodd Mrs Lloyd nad oedd hi’n cael unrhyw anawsterau gyda’i theulu na’i pherthynas â’i gŵr, a bod ei phlant a’i hwyrion a’i hwyresau yn gefnogol iawn.

Mae Mrs Lloyd dros oedran ymddeol ac nid oes ganddi unrhyw ddiddordeb mewn gweithgareddau addysg.

Dywedodd Mrs Lloyd nad oedd hi’n teimlo ei bod hi’n cael problemau ariannol oherwydd y rôl ofalu. Nid yw Mr a Mrs Lloyd wedi cael asesiad ariannol i gynyddu eu hincwm ac mae’n ymddangos eu bod nhw’n bobl ddarbodus. Gwneir atgyfeiriad am gyngor ar fudd-daliadau.

Mae’n amlwg bod Mrs Lloyd wedi dioddef rhywfaint o straen gofalwr ac efallai y bydd archwiliad o ddulliau o ymlacio a mwynhau gweithgareddau cymdeithasol o fudd iddi. Cafodd Mrs Lloyd fanylion gweithgareddau a manylion cyswllt y Grŵp Cefnogi Gofalwyr lleol yr oedd hi’n teimlo’n hyderus y byddai hi’n gallu cysylltu ag ef yn annibynnol.

 

Gofalwr Ifanc

Mae Lee yn fachgen 14 oed sy’n gofalu am ei fam sengl, Sian. Mae’n darparu popeth heblaw anghenion gofal personol i’w fam. Mae gan Sian amryw o namau corfforol sy’n arwain at ymyriadau meddygol rheolaidd a phroblemau symud sy’n golygu ei bod hi’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn ei hystafell wely. Mae Sian hefyd wedi datblygu dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn, sy’n ei gwneud hi’n fwy pryderus fyth. Bydd Lee yn gadael yr ysgol neu’n absennol o’r ysgol yn aml, a phan fydd yn yr ysgol, mae’n aflonyddu ar eraill ac yn herio pobl byth a beunydd.

Nid yw Lee yn gallu cyflawni ei ganlyniad llesiant mewn perthynas ag addysg a datblygiad heb gynllun cymorth, felly mae’n bodloni’r meini prawf. Ond yn yr achos hwn, mae’r cynllun cymorth yn golygu darparu gwasanaethau gofal a chymorth i fam Lee. Darperir gwasanaethau gofal a chymorth i Sian yn ystod y dydd trwy gynllun gofal a chymorth ac mae Sian yn cael cymorth i gael ymyrraeth feddygol a seiciatrig i fynd i’r afael â’i lefelau pryder.

 


 

Atodiad 2

Egwyddorion parhad gofal trawsffiniol yn y Deyrnas Unedig

Mae’r egwyddorion hyn yn amlinellu sut y dylai awdurdodau cyfrifol yn y Deyrnas Unedig sicrhau parhad gofal i oedolion sy’n derbyn gofal a chymorth ac sy’n symud i wlad arall o fewn y Deyrnas Unedig. 

Nodau’r egwyddorion yw cynnal llesiant yr oedolyn a’i atal rhag mynd i argyfwng, sicrhau bod yr oedolyn wrth graidd y broses a’i gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau cyfrifol weithio gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth mewn ffordd amserol i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu ar ddiwrnod y symud ac wedi hynny.

Dylai awdurdodau cyfrifol ddiwallu anghenion gofal asesedig yr oedolyn a chefnogi’r canlyniadau y mae am eu cyflawni. Cydnabyddir y gall yr anghenion hynny gael eu diwallu mewn ffordd wahanol pan fydd yr oedolyn yn symud i’r wlad newydd.

Dylai’r egwyddorion hyn gael eu defnyddio mewn ffordd sy’n gyson â deddfwriaeth bresennol ar gyfer darparu gofal a chymorth ym mhob un o bedair gwlad y DU.

Dyma egwyddorion cydweithredu trawsffiniol:

1.    Dylai awdurdodau cyfrifol sicrhau bod y broses yn canolbwyntio ar y person ac yn ystyried y canlyniadau y mae oedolyn am eu cyflawni.

2.    Dylai awdurdodau cyfrifol weithio gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth am eu system a’u gwasanaethau gofal a chymorth lleol.

3.    Dylai’r oedolyn sy’n symud gael gwybodaeth berthnasol, mewn fformat hygyrch, am ddarpariaeth gofal a chymorth leol yn yr awdurdod y mae’n symud iddo.

4.    Dylai awdurdodau cyfrifol weithio gyda’i gilydd i gefnogi symud ar draws ffiniau cenedlaethol i sicrhau bod gofal a chymorth yr oedolyn yn parhau yn ystod y symud.

5.    Dylai awdurdodau cyfrifol rannu gwybodaeth berthnasol am anghenion gofal a chymorth yr oedolyn ac unrhyw wybodaeth arall y credant ei bod yn angenrheidiol mewn ffordd amserol a gyda chydsyniad yr oedolyn dan sylw.

 

Diffiniad

Mae ‘awdurdodau cyfrifol’ yn golygu’r awdurdod lleol, yr Awdurdod Integreiddio neu’r Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gyfrifol am asesu gofal oedolyn yn ystod y symud.


 

                                   



[1] Dolen i’r codau ymarfer ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 https://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=744&pid=36239

[2] Caldicott 2 - http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=950&pid=68298

 

[3] Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru http://www.waspi.org/

[4] Neu’r rhiant yn achos plentyn, neu unrhyw berson ag awdurdod i wneud penderfyniadau ar ran person nad oes ganddo’r gallu i gytuno